
2008 Rhif 2162 (Cy.192)
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU
Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2008
Gwnaed 12 Awst 2008
Yn dod i rym 2 Medi 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn, drwy arfer y pwerau sydd wedi'u breinio ynddynt hwy gan adrannau 121(5) a 122(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004:
Enwi, cychwyn, rhychwantu a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2008 a daw i rym ar 2 Medi 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhychwantu Cymru a Lloegr ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005
2 
Yn yr Atodlen i Orchymyn Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2005, hepgorer y geiriau “Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot”.
Rosemary Thomas
Pennaeth yr Is-adran Gynllunio ar ran y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
12 Awst 2008