
2008 Rhif 215 (Cy.26)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2008
Wedi'u gwneud 2 Chwefror 2008
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Chwefror 2008
Yn dod i rym 1 Medi 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau sydd yn adrannau 132, 145 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002  ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 132(4) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a dehongli
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 1 Medi 2008.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004.
Diwygio'r Prif Reoliadau
3 
Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn:
4 
Ym mharagraff 5 o Ran 1 o Atodlen 2 hepgorer y gair “ac” ar ddiwedd (b).
5 
Ym mharagraff 5 o Ran 1 o Atodlen 2 mewnosoder ar ôl (b) y paragraff canlynol—“
(c) dim ond o ran personau sy'n dechrau ar gwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon ar neu ar ôl 1 Medi 2008 sydd wedi dilyn unrhyw gyfnod o brofiad addysgu ymarferol at ddibenion y cwrs hwnnw o hyfforddiant cychwynnol i athrawon yn gyfan gwbl neu'n rhannol mewn ysgol, ysgol annibynnol neu sefydliad arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) yng Nghymru; ac”.
6 
Ym mharagraff 5 o Ran 1 o Atodlen 2 yn lle “(c)” rhodder “(ch)”.
7 
Ym mharagraff 11(3)(a) o Ran 1 o Atodlen 2 ar ôl “y drwydded;” mewnosoder “a”.
8 
Hepgorer paragraff 11(3)(b) o Ran 1 o Atodlen 2.
9 
Yn is-baragraff 11(3) o Ran 1 o Atodlen 2 yn lle “(c)” rhodder “(b)”.
10 
Ym mharagraff (4) o reoliad 6 ac yn is-baragraff 11(1), is-baragraff 11(2) a pharagraff 11(3)(a) o Ran 1 o Atodlen 2 yn lle “Cyngor Addysg Taleithiau Guernsey” rhodder “Adran Addysg Taleithiau Guernsey”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
2 Chwefror 2008