
2008 Rhif 199 (Cy.25)
GWASANAETHAU TÅN AC ACHUB, CYMRU
Gorchymyn yr Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2008
Gwnaed 30 Ionawr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1 Chwefror 2008
Yn dod i rym 29 Chwefror 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 6(3), 7(6) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, dod i rym, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn yr Awdurdodau Tân ac Achub (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 29 Chwefror 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “cynllun gwella” (“improvement plan”) yw cynllun perfformiad gwerth gorau o fewn ystyr “best value performance plan” yn adran 6(1) o'r Ddeddf; ac
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1999.
(3) Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys ond i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru sydd yn awdurdod tân ac achub a gyfansoddir drwy gynllun y mae adran 4 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 yn gymwys iddo ac yn cael effaith mewn perthynas â'r flwyddyn 2008-2009 a blynyddoedd ariannol dilynol.
Y dyddiad ar gyfer cyhoeddi cynllun gwella
2 
Rhaid i awdurdodau gwerth gorau gyhoeddi eu cynllun gwella am flwyddyn ariannol erbyn 31 Hydref o'r flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.
Y dyddiad ar gyfer anfon copïau o adroddiadau archwilwyr
3 
Rhaid i gopïau o adroddiad archwilydd ynghylch cynllun gwella gael ei anfon yn unol ag adran 7(5) o'r Ddeddf erbyn 30 Tachwedd o'r flwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
30 Ionawr 2008