
2008 Rhif 1927 (Cy.183)
BYWYD GWYLLT, CYMRU
Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 5) (Cymru) 2008
Gwnaed 17 Gorffennaf 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 21 Gorffennaf 2008
Yn dod i rym 12 Awst 2008

Mae Gweinidogion Cymru—
(a) wedi cael sylwadaeth a gyflwynwyd iddynt gan gyrff cadwraeth Prydain Fawr yn gweithredu drwy'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yn unol â Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006;
(b) yn unol ag adran 26(4)(a) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, wedi rhoi i unrhyw awdurdod lleol yr effeithir arno ac unrhyw berson arall yr effeithir arno gyfle i gyflwyno gwrthwynebiadau neu sylwadaeth mewn cysylltiad â phwnc y Gorchymyn hwn; ac
(c) o'r farn bod yr anifeiliaid y cyfeirir atynt yn Erthyglau 2(a), (b), (c), (ch) a (d) o'r Gorchymyn hwn mewn perygl o ddarfod ym Mhrydain Fawr neu'n debygol o gael eu rhoi mewn perygl o'r fath oni chymerir mesurau ar gyfer eu cadwraeth.

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 22(3) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn, rhychwantu a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 5) (Cymru) 2008.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 12 Awst 2008.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhychwantu Cymru a Lloegr.
(4) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
Amrywio Atodlen 5
2 
Yn Atodlen 5 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (anifeiliaid sy'n cael eu gwarchod)—
(a) yn y cofnod ynghylch “Seahorse, Short Snouted”, ar ôl “England”, mewnosoder “and Wales”;
(b) yn y cofnod ynghylch “Seahorse, Spiny”, ar ôl “England”, mewnosoder “and Wales”;
(c) yn y cofnod ynghylch “Shark, Angel”, ar ôl “England”, mewnosoder “and Wales”;
(ch) yn y cofnod ynghylch “Snail, Roman”, ar ôl “England”, mewnosoder “and Wales”;
(d) yn y cofnod ynghylch “Vole, Water”, hepgorer “(in so far as this entry has effect with respect to Wales, in respect of section 9(4)(a) only)”; ac
(dd) yn Nodyn 2 ar ddiwedd yr Atodlen, ar ôl “In this Schedule “excluded waters” means the part of the territorial waters adjacent to England”, mewnosoder “and Wales”.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
17 Gorffennaf 2008