
2008 Rhif 1904 (Cy.182) (C.85)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 8) (Cymru) 2008
Gwnaed 16 Gorffennaf 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 67(7)(e), a pharagraffau (b) o Rannau 1 a 3 o Atodlen 5 o Ddeddf Plant 2004, ac a freiniwyd ynddynt hwy bellach, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 8) (Cymru) 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant 2004.
Cychwyn
2 
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn dod i rym ar 31 Gorffennaf 2008:—
(a) Adran 51, (arolygiad o awdurdodau addysg lleol);
(b) Rhan 1 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym) o Atodlen 5 (diddymiadau);
(c) Rhan 3 o Atodlen 5.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
16 Gorffennaf 2008