
2008 Rhif 1899 (Cy.181)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn y Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru (Diwygiadau Amrywiol) 2008
Gwnaed 16 Gorffennaf 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 4 Mehefin 2008
Yn dod i rym 1 Awst 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 101(3)(a), 105(6), 108(3)(c), (7), (8), (9), (10) ac (11), a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy;
Yn unol ag adran 117 o Ddeddf Addysg 2002, i'r graddau y gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau yn adran 105(6) o'r Ddeddf honno, gwnaeth Gweinidogion Cymru y fath drefniadau ag a ystyrient yn briodol ar gyfer ymgynghori ynglŷn â'r cynigion;

Yn unol ag adran 210(3) o Ddeddf Addysg 2002 (fel y'i cymhwysir gan baragraff 34(2)o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) cafodd drafft o'r Gorchymyn hwn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo gan benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru (Diwygiadau Amrywiol) 2008 a daw i rym ar 1 Awst 2008.
Diwygiadau i adran 101(1)(bb) o Ddeddf Addysg 2002
2 

(1) Yn Adran 101(1)(bb) o Ddeddf Addysg 2002 yn lle “during the fourth key stage” rhodder y geiriau “during the third and fourth key stages”.
Diwygio Adran 105(3) o Ddeddf Addysg 2002
3 
Diwygir Adran 105(3) o Ddeddf Addysg 2002 fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (a), cyn “technology” mewnosoder “design and”;
(b) ar ôl paragraff (a) mewnosoder “(aa) information and communication technology,”,
(c) ym mharagraff (e), ar ôl “art” mewnosoder “and design”.
Diwygiadau i Orchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005
4 

(1) Diwygier Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 2005 yn unol â'r erthygl hon.
(2) Yn y diffiniad o “y pynciau sylfaen eraill” (“the other foundation subjects”) yn erthygl 3(1)—
(a) dileer y gair “technoleg” a rhodder yn ei le y geiriau “dylunio a thechnoleg, technoleg gwybodaeth a chyfathrebu,”; a
(b) ar ôl y gair “celfyddyd” mewnosoder y geiriau “a dylunio”.
(3) Yn erthygl 7(1) ar ôl y gair “celfyddyd” mewnosoder y geiriau “a dylunio, dylunio a thechnoleg a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu”.
(4) Dileer erthygl 7(2).
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
16 Gorffennaf 2008