
2008 Rhif 1896 (Cy.180)
PRIFFYRDD, CYMRU
Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Abertawe) 2008
Gwnaed 15 Gorffennaf 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Gorffennaf 2008
Yn dod i rym 1 Medi 2008

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru.
Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan y pwerau hyn mewn cysylltiad â rhan o'i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Heddlu De Cymru yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10.

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Gorchymyn hwn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Dinas a Sir Abertawe) 2008 a daw i rym ar 1 Medi 2008.
Dynodi ardal gorfodi sifil ac ardal gorfodi arbennig
2 
Mae Gweinidogion Cymru'n dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
15 Gorffennaf 2008
YR ATODLEN
Ardal a ddynodir yn ardal gorfodi sifil ac yn ardal gorfodi arbennig
Erthygl 2

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r cyfan o ddinas a sir Abertawe ac eithrio y darn o Draffordd yr M4 a'i ffyrdd ymuno ac ymadael sydd o fewn y ddinas a'r sir a'r A483 Fabian Way o'i chyffordd â'r A4067 hyd at y ffin â bwrdeistref sirol Castell-Nedd Port Talbot.
