
2008 Rhif 1811 (Cy.175)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRUCADWRAETH PYSGOD MÔR
Gorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2008
Gwnaed 8 Gorffennaf 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Gorffennaf 2008
Yn dod i rym 30 Gorffennaf 2008
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno, o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli'r cyfeiriadau at offerynnau'r Gymuned Ewropeaidd yn y Gorchymyn hwn fel cyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd.Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 3(1) a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2008 a daw i rym ar 30 Gorffennaf 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn:
 ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat)” yw cwch pysgota sydd naill ai wedi'i gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnachol 1995 neu sydd dan berchnogaeth lwyr personau sy'n gymwys i berchnogi llongau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o'r Ddeddf honno;
 mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
 ystyr “Gorchymyn cyfatebol” (“equivalent Order”) yw gorchymyn sy'n rhychwantu unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig a wneir o dan adran 3 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 sy'n cynnwys darpariaeth debyg i'r ddarpariaeth yn erthygl 3; ac
 ystyr “pen y cwd” (“codend”) yw'r rhan olaf un o rwyd, sydd wedi ei llunio o un neu fwy o baneli sy'n cynnwys rhannau o rwyd â'i rhwyllau o'r un maint ac wedi'u cysylltu â'i gilydd ar hyd eu hymylon yn echel hir plyg y rhwyd gan gareiau.
(2) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae rhwyll rhwyd neu rwydwe i'w mesur yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 129/2003 dyddiedig 24 Ionawr 2003 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer penderfynu ar faint rhwyllau a thrwch cortynnau rhwydi pysgota.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at offeryn Cymunedol yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
Gwahardd pysgota perdys heb dreillrwyd wahanu neu grid didoli
3 

(1) Gwaherddir cychod pysgota Prydeinig rhag cario na defnyddio rhwyd, sydd â'i rhwyll yn mesur rhwng 16 a 31 o filimetrau oni bai—
(a) bod rhwydwe, sydd â'i rhwyll yn mesur o leiaf ddwywaith mesur pen y cwd a dim mwy na 70 o filimetrau, wedi ei rhoi ar draws holl drawsdoriad y rhwyd yn y fath fodd —
(i) na all pysgod gyrraedd pen y cwd heb yn gyntaf fynd drwy'r rhwydwe; a
(ii) bod twll yn y rhwyd y mae'r holl bysgod nad ydynt yn mynd drwy'r rhwydwe yn gallu ffoi drwyddo;
(b) bod grid anhyblyg, nad yw'r gofod rhwng ei fariau yn fwy na 20 o filimetrau wedi ei roi ar draws holl drawsdoriad y rhwyd yn y fath fodd—
(i) na all pysgod gyrraedd pen y cwd heb yn gyntaf fynd drwy'r grid; a
(ii) bod twll yn y rhwyd y mae'r holl bysgod nad ydynt ym mynd drwy'r grid yn gallu ffoi drwyddo;
(c) na chadwyd unrhyw bysgod ar y cwch; neu
(ch) bod cadw unrhyw bysgod ar y cwch yn gydnaws ag Erthygl 25(3) o Reoliad y Cyngor 850/98 dyddiedig 30 Mawrth 1998 ar gyfer cadwraeth adnoddau pysgodwrol drwy fesurau technegol i ddiogelu rhai ifanc ac organebau morol.
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig
4 

(1) At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn neu unrhyw Orchymyn cyfatebol, caiff swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig arfer y pwerau a roddir gan yr erthygl hon mewn perthynas ag unrhyw gwch pysgota Prydeinig y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo.
(2) Caiff y swyddog fynd ar y cwch, gyda neu heb bersonau a neilltuwyd i gynorthwyo'r swyddog hwnnw wrth ei ddyletswyddau ac, at y diben hwnnw, caiff fynnu bod y cwch yn stopio a chaiff wneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar y cwch neu ddod oddi arno.
(3) Caiff y swyddog fynnu bod y meistr a phersonau eraill ar y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad ac ymholiad sy'n ymddangos i'r swyddog ei fod yn angenrheidiol at y diben o orfodi'r Gorchymyn hwn ac, yn benodol —
(a) caiff archwilio unrhyw bysgod ar y cwch hwnnw a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a chaiff fynnu bod personau sydd ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol ar gyfer hwyluso'r archwiliad; a
(b) caiff fynnu bod unrhyw berson sydd ar y cwch yn dangos unrhyw ddogfen ynglŷn â'r cwch, ag unrhyw weithrediadau pysgota neu unrhyw weithrediadau ategol iddynt neu â'r personau sydd ar y cwch sydd yng ngwarchodaeth neu feddiant y person hwnnw a chaiff gymryd copïau o unrhyw ddogfen o'r fath;
(c) er mwyn canfod a yw meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni unrhyw dramgwydd o dan adran 3(5) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 fel y'i darllenir ynghyd â'r Gorchymyn hwn neu unrhyw Orchymyn cyfatebol, caiff chwilio'r cwch am unrhyw ddogfen o'r fath a gall fynnu bod unrhyw berson ar y cwch yn gwneud unrhyw beth sy'n ymddangos i'r swyddog yn angenrheidiol i hwyluso'r chwilio;
(ch) os yw'r cwch yn un y mae gan y swyddog reswm dros amau fod tramgwydd o'r fath wedi'i gyflawni mewn perthynas â hi, caiff ymafael yn unrhyw ddogfen a chadw'n gaeth unrhyw ddogfen o'r fath a ddangosir iddo neu y deuir o hyd iddi ar y cwch er mwyn galluogi defnyddio'r ddogfen fel tystiolaeth mewn unrhyw achos ynglyn â'r tramgwydd;
ond nid oes dim yn is-baragraff (ch) uchod yn caniatáu ymafael yn unrhyw ddogfen a chadw'n gaeth unrhyw ddogfen y mae'r gyfraith yn mynnu ei bod yn cael ei chario ar y cwch ac eithrio tra bo'r cwch yn cael ei gadw'n gaeth mewn porthladd.
(4) Pan fo'n ymddangos i swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig fod unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn wedi'i thorri ar unrhyw adeg, caiff y swyddog —
(a) ei gwneud yn ofynnol bod meistr y cwch y cyflawnwyd y tramgwydd mewn cysylltiad ag ef, neu bod y swyddog ei hun, yn mynd â'r cwch a'r criw i'r porthladd cyfleus agosaf yn ei dyb ef; a
(b) cadw'r cwch yn gaeth y porthladd, neu ei gwneud yn ofynnol i'r meistr wneud hynny;
a phan fydd swyddog o'r fath yn cadw cwch yn gaeth, neu'n mynnu bod y cwch yn cael ei gadw'n gaeth, rhaid iddo gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y bydd y cwch yn cael ei gadw'n gaeth, neu ei bod yn ofynnol ei gadw'n gaeth, hyd oni thynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodir gan swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
Dirymu
5 
Mae Gorchymyn Rhwydi Pysgota Perdys (Cymru) 2003  wedi ei ddirymu.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
8 Gorffennaf 2008