
2008 Rhif 1720 (Cy.166)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Conwy a Sir Ddinbych (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008
Gwnaed 30 Mehefin 2008
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a pharagraff 29 o Atodlen 3 iddi ac ar ôl cwblhau'r ymgynghori statudol fel y'i rhagnodwyd o dan baragraff 29(4) o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn hwn.
Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Conwy a Sir Ddinbych (Trosglwyddo Staff, Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau) 2008 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2008.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall:
 ystyr “y dyddiad trosglwyddo” (“the transfer date”) yw 1 Gorffennaf 2008;
 ystyr “yr hen ymddiriedolaeth” (“the old trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Conwy a Sir Ddinbych a sefydlwyd ar 4 Ionawr 1999;
 ystyr “yr ymddiriedolaeth newydd” (“the new trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Cymru a sefydlwyd ar 25 Mehefin 2008.
Trosglwyddo cyflogeion i'r trosglwyddai
2 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), trosglwyddir contract cyflogaeth unrhyw berson a oedd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo yn cael ei gyflogi gan yr hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo a bydd y contract hwnnw'n effeithiol fel pe bai wedi'i wneud yn wreiddiol rhwng y person a gyflogir felly a'r ymddiriedolaeth newydd.
(2) Heb ragfarnu paragraff (1) uchod —
(a) yn rhinwedd yr erthygl hon, trosglwyddir yr holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau o dan gontract neu mewn cysylltiad â chontract y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddo i'r ymddiriedolaeth newydd ar y dyddiad trosglwyddo;
(b) bernir bod unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan yr hen ymddiriedolaeth neu mewn perthynas â hi ynglŷn â'r contract hwnnw neu'r cyflogai hwnnw, o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen wedi'i wneud gan yr ymddiriedolaeth newydd neu mewn perthynas â hi.
(3) Nid yw paragraffau (2) a (3) uchod yn rhagfarnu unrhyw hawl sydd gan unrhyw gyflogai i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol er niwed i'r cyflogai yn ei amodau gwaith, ond ni fydd unrhyw hawl o'r fath yn codi yn unig oherwydd y newid mewn cyflogwr a bernir gan yr erthygl hon.
Trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau
3 
Ar y dyddiad trosglwyddo trosglwyddir holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r hen ymddiriedolaeth, sydd heb eu crybwyll yn erthygl 2 uchod, i'r ymddiriedolaeth newydd gan gynnwys heb gyfyngiad—
(a) y ddyletswydd i baratoi'r cyfrifon sydd heb eu cwblhau gan yr hen ymddiriedolaeth a chyflawni'r holl ddyletswyddau statudol mewn perthynas â'r cyfrifon hynny;
(b) eiddo ymddiriedol yr hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 1.
(c) elusennau'r hen ymddiriedolaeth a restrir yn Atodlen 2.
Trosglwyddo swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd
4 
Trosglwyddir holl swyddogaethau'r hen ymddiriedolaeth i'r ymddiriedolaeth newydd a byddant yn cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo ymlaen.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
30 Mehefin 2008
ATODLEN 1
Erthygl 3(b)


Eiddo Deiliadaeth Rhif Teitl os yw'n gymwys
Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gogledd Dwyrain Cymru
Ysbyty Cymuned Bae Colwyn Rhydd-ddaliad WS744530
Ysbyty Cymuned Dinbych, Rhydd-ddaliad WA560785WA591765
Ysbyty HM Stanley Rhydd-ddaliad CYM62366
Ysbyty Cymuned Llangollen Rhydd-ddaliad WA827673
Ysbyty Cymuned Prestatyn Rhydd-ddaliad WA690439
Ysbyty Brenhinol Alexandra Rhydd-ddaliad WA703736
Ysbyty Cymuned Ruthin Rhydd-ddaliad WA690446
Ysbyty Glan Clwyd Rhydd-ddaliad WA703136CYM357076
Clinigau/ Canolfannau Iechyd
Canolfan Iechyd Corwen Rhydd-ddaliad WA693351
Canolfan Iechyd Llanfairfechan Rhydd-ddaliad WA750507
Canolfan Iechyd Llangollen Rhydd-ddaliad WA703727WA690435
Canolfan Iechyd Llanelwy Rhydd-ddaliad WA703721
Clinig Abergele, Stryd y Farchnad, Conwy, LL22 7BP Rhydd-ddaliad 
Clinig Ffordd Argyll Rhydd-ddaliad WA789174
Clinig Cerrigydrudion, Kings Road, Sir Dinbych, LL21 9SU Lesddaliad 
Clinig Conwy, Adeiladau Muriau, Rosehill Street, Conwy LL32 8LD Mân hawliau meddiannaeth 
Clinig Fforddlas Rhydd-daliad WA690455
Clinig Bae Kinmel, 57 Ffordd Y Foryd, Bae Cinmel, Conwy LL18 5BB Lesddaliad 
Clinig Llanrwst Rhydd-ddaliad WA755331
Clinig Maes Derw Rhydd-ddaliad WA750501
Clinig Prestatyn Rhydd-ddaliad WA690461
Clinic a Canolfan Iechyd Plant Rhyddlan Rhydd-ddaliad WA360773WA339587WA690475
Clinig Ruthin Rhydd-ddaliad WA690466
Unedau Iechyd Meddwl
Uned EMI Bodnant Rhydd-ddaliad WA789167
Uned Plant a Pobl Ifanc Bae Colwyn, 65 Ffordd Victoria , Bae Colwyn, LL29 7AJ Lesddaliad 
MHRC Bae Colwyn, Rhydd-ddaliad WA766562
Dyffryn Clwyd CMHT Rhydd-ddaliad WA703734
EMI Glan Traeth/ MHRC Hafod Rhydd-ddaliad WA603520
Tan-Y-Castell, Stryd Mwrog, Ruthin, Sir Dinbych, LL15 1LE Lesddaliad 
Gwasanaethau Plant a Teulu Lawnside Rhydd-ddaliad WA44152WA867292
Oakleigh Rhydd-ddaliad WA748893
MHRC Roslin Rhydd-ddaliad WA751007
Canolfan Dydd Trefeirian Rhydd-ddaliad WA820256
Arall
Tim Nyrsiau Cylch Ruthin,Plas Meddyg Ruthin, LL15 1BP Lesddaliad 
Uned 81, Cwrt Bowen, Parc Business Llanelwy, Llanelwy, Sir Dinbych, LL17 0JE Lesddaliad 
Uned 100 a 101 Cwrt Bowen, Parc Business Llanelwy, Llanelwy, Sir Dinbych, LL17 0JE Lesddaliad 
Partneriaeth Cefnogi Busnes Gogledd Cymru, Alder House, Alder Court, Parc Busnes Llanelwy, LL17 0JE Lesddaliad 
Gwasanaethau Iechyd Cyfreithiol Cymreig, Uned 17, Lambourne Crescent, Llanishen, Cardiff. Lesddaliad 
Gwasanaethau Iechyd Cyfreithiol Cymreig, Bevan House, Lambourne Crescent, Llanishen, Cardiff, CF14 5BG. Lesddaliad 
ATODLEN 2
Erthygl 3(c)

Cronfa Elusennol Gyffredinol Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych (gan gynnwys is-elusennau) —Rhif 1047989.
