
2008 Rhif 17 (Cy.6) (C.1)
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
GORCHYMYN DEDDF GOFAL PLANT 2006 (CYCHWYN RHIF 1) (CYMRU) 2008
Wedi'i wneud 8 Ionawr 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 109(2) o Ddeddf Gofal Plant 2006, ac a freiniwyd ynddynt hwy bellach, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gofal Plant 2006 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gofal Plant 2006.
Cychwyn
2 
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn dod i rym ar 31 Ionawr 2008:—
(a) Adrannau 22 i 29, mewn perthynas â swyddogaethau cyffredinol Awdurdodau Lleol yng Nghymru;
(b) Adran 30 (dehongli Rhan 2);
(c) Adran 101 (darparu gwybodaeth am blant: Cymru);
(ch) Adran 102 (datgymhwysiad ar gyfer cofrestru o dan Ddeddf Plant 1989).
3 
Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2008:—
(a) Adran 103(1) i'r graddau y mae'n berthnasol i ddarpariaethau paragraff 28 o Atodlen 2 y nodir yn Erthygl 3(b) isod;
(b) Paragraff 28 o Atodlen 2.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
8 Ionawr 2008