
2008 Rhif 1646 (Cy.159)
AMAETHYDDIAETH, CYMRUBWYD, CYMRU
Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed 23 Mehefin 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 24 Mehefin 2008
Yn dod i rym 17 Gorffennaf 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Cafodd Gweinidogion Cymru eu dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol ar fwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid neu y porthir anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd ag ef.

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2008.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Gorffennaf 2008.
(3) Yn y rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio'r prif Reoliadau
2 
Diwygir y Prif Reoliadau yn unol â'r paragraffau canlynol—
(a) yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y diffiniad o “awdurdod bwyd anifeiliaid” yn lle “adran 67(1)” rhodder “adran 67(1A)”;
(b) ym mharagraff (1) o reoliad 4 (gorfodi) hepgorer y geiriau “neu, yn ôl y digwydd, ei ddosbarth,”; ac
(c) yn rheoliad 5 (cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990) ym mharagraff (c) (sy'n ymwneud ag adran 32 — pwerau mynediad) hepgorer y geiriau “neu, yn ôl y digwydd, ei ddosbarth”.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
23 Mehefin 2008