
2008 Rhif 1583 (Cy.158)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed 18 Mehefin 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 18 Mehefin 2008
Yn dod i rym 19 Mehefin 2008
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Tafod Glas (Cymru) (Diwygio) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 19 Mehefin 2008.
Diwygio
2 
Yn rheoliad 17 o Reoliadau'r Tafod Glas (Cymru) 2008 dileer yr ail gyfeiriad at “yr Ysgrifennydd Gwladol” ac yn ei le rhodder “Weinidogion Cymru”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
18 Mehefin 2008