Argraffwyd yr Offeryn Statudol hwn yn lle'r OS sy'n dwyn yr un rhif ac fe'i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
2008 Rhif 1512 (Cy.155)
COMISIYNYDD POBL HŷN CYMRU, CYMRU
Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Diwygio) 2008
Gwnaed 10 Mehefin 2008
Yn dod i rym 12 Mehefin 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 5(4)(b) a 6(5), 8(1)(e), 10(1) a (5), 15(1) a (3) o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2006 a pharagraff 8 o Atodlen 1 iddi ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
Yn unol â pharagraff 35(3) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, cafodd drafft o'r Rheoliadau hyn ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (Diwygio) 2008 a deuant i rym ar 12 Mehefin 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Cwnsler Cyffredinol” (“the Counsel General) yw'r person a benodir o dan adran 49 o Ddeddf 2006;
 ystyr “y Cynulliad” (“the Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y cyfansoddwyd ef gan adran 1 o Ddeddf 2006;
 ystyr “Cynulliad 1998” (“the 1998 Assembly) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y cyfansoddwyd ef gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998;
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006;
 ystyr “Gweinidogion Cymru” (“the Welsh Ministers”) yw'r personau a benodir o dan adran 48 o Ddeddf 2006;
 ystyr “Llywodraeth Cynulliad Cymru” (“the Welsh Assembly Government”) yw Llywodraeth Cynulliad Cymru fel y'i diffinnir gan adran 45(1) o Ddeddf 2006;
 ystyr “y Prif Weinidog” (“the First Minister”) yw'r person a benodir o dan adran 48 o Ddeddf 2006.
Diwygio Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007 yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 4 (rhoi gwybodaeth gan bersonau rhagnodedig)—
(a) yn is-baragraff (a) o baragraff (2)—
(i) ar ôl “ac aelodau a chyflogeion” mewnosoder “Llywodraeth Cynulliad Cymru”;
(ii) yn lle “y Cynulliad” mewnosoder “Cynulliad 1998”; a
(iii) ar ôl “Cynulliad 1998” mewnosoder “a Llywodraeth Cynulliad Cymru”;
(b) ym mharagraff (3)—
(i) yn lle “yw'r Cynulliad” mewnosoder “yw Cynulliad 1998”; a
(ii) ar ôl “Cynulliad 1998,” mewnosoder “Llywodraeth Cynulliad Cymru,”.
(3) Yn rheoliad 5 (rhoi cymorth mewn achosion)—
(a) yn is-baragraff (c) o baragraff (2)—
(i) yn lle “y Cynulliad” mewnosoder “Gynulliad 1998”; a
(ii) ar ôl “Gynulliad 1998” mewnosoder “, Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol”.
(4) Yn rheoliad 8 (achosion sy'n destun archwilio)—
(a) ym mharagraff (c)—
(i) yn lle “gan y Cynulliad” mewnosoder “gan Gynulliad 1998”; a
(ii) ar ôl “Gynulliad 1998” mewnosoder “, Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol”.
(5) Yn rheoliad 11 (rhoi gwybodaeth mewn cysylltiad ag archwiliad)—
(a) yn is-baragraff (a) o baragraff (3)—
(i) ar ôl “ac aelodau a chyflogeion” mewnosoder “Llywodraeth Cynulliad Cymru”;
(ii) yn lle “y Cynulliad” mewnosoder “Cynulliad 1998”; a
(iii) ar ôl “Cynulliad 1998” mewnosoder “a Llywodraeth Cynulliad Cymru”;
(b) ym mharagraff (4)—
(i) yn lle “yw'r Cynulliad” rhodder “yw Cynulliad 1998”;
(ii) ar ôl “Cynulliad 1998” mewnosoder “Llywodraeth Cynulliad Cymru,”; a
(iii) yn lle “gan y Cynulliad” rhodder “gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol”.
(6) Yn rheoliad 14 (adroddiadau) yn lle is-baragraff (b) o baragraff (5) rhodder “i'r Cynulliad a Dau Dŷ'r Senedd”.
(7) Yn rheoliad 15 (camau pellach yn sgil adroddiad) ym mharagraff (1) yn lle “y Cynulliad” rhodder “Gweinidogion Cymru, y Prif Weinidog neu'r Cwnsler Cyffredinol”.
(8) Yn rheoliad 16 (adroddiadau i'r Cynulliad)—
(a) ym mharagraff (1) yn lle “i'r Cynulliad” rhodder “i'r Prif Weinidog”;
(b) ym mharagraff (2) yn lle “i'r Cynulliad” rhodder “i'r Prif Weinidog”;
(c) yn lle paragraff (4) rhodder—“
 Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r Comisiynydd, erbyn 1 Hydref bob blwyddyn fan bellaf, anfon copi o'r adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), (2) a (3) at y Cynulliad a dau Dŷ'r Senedd”.
Gwenda Thomas
O dan arweiniad y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
10 Mehefin 2008