
2008 Rhif 1480 (Cy.153)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed 9 Mehefin 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Mehefin 2008
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 130 a 131, 132 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2008.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2008.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007; a
(b) ystyr “y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm” (“the Income Support Regulations”) yw Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Addasu'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
2 

(1) Mae Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (Addasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987) wedi'i diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Nhabl A, yn lle'r addasiad i reoliad 45 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Terfyn Cyfalaf), rhodder—“Yn lle'r rheoliad hwn rhodder—“
Capital Limit
45 
For the purposes of regulations 5(2)(e) and 6(1)(a) of the National Health Service (Travelling Expenses and Remission of Charges) (Wales) Regulations 2007 the capital limit is—
(a) for a claimant permanently residing in accommodation as defined in regulation 19A– £22,000;
(b) in any other case–£16,000.”.”.
(3) Yn Nhabl A, yn yr addasiad i reoliad 53 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm, yn lle “(a) until 8 April 2007 £16,000; (b) from 9 April 2007 £17,250” rhodder “£19,000”.
(4) Yn Nhabl A, yn yr addasiadau i reoliad 66A o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (trin benthyciadau i fyfyrwyr), yn lle'r cofnod cyntaf, rhodder—“Yn lle paragraff (1), rhodder—“
(1) A student loan must be treated as income unless it is—
(a) a hardship loan; or
(b) an additional loan, as described in the Guide to Student Support issued by the Student Awards Agency for Scotland 2007-2008, paid pursuant to an application for a loan under regulation 5(1) or (9) of the Education (Student Loans) (Scotland) Regulations 2007 (applications for loans),
in which case it will be disregarded.”.”.
(5) Yn Nhabl A, yn yr addasiadau i Atodlen 9 i'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (symiau i'w diystyru wrth gyfrifo incwm heblaw enillion) yn lle'r cofnod cyntaf rhodder—“Ym mharagraff 15(1) yn lle “sub-paragraph (3)” rhodder “sub-paragraphs (1A), (1B) and (3)”.
 Mewnosoder ar ôl paragraff 15(1)—“
(1A) In respect of a voluntary payment made to a student, sub-paragraph (1) will only apply to £20 of that payment.
(1B) The total amount disregarded in respect of voluntary payments to a student under sub-paragraph (1) may not exceed £20 per week.
(1C) In sub-paragraphs (1A) and (1B) “student” has the meaning given in regulation 61(1).”.”.
Edwina Hart
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
9 Mehefin 2008