
2008 Rhif 1438 (Cy.150)
PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU
Gorchymyn Cŵn Gleision (Gwahardd eu Pysgota) (Cymru) 2008
Gwnaed 4 Mehefin 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Mehefin 2008
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 5(1), 5(6), 6(1) a (6)(1A) a 15(3) o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967, ac a freiniwyd bellach ynddynt, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, chychwyn a cyhmhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cŵn Gleision (Gwahardd eu Pysgota) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2008.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r erthygl hon, mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys i lestri pysgota—
(a) o fewn ystyr Erthygl 3(c) o Reoliad y Cyngor (EC) 2371/2002 ar gadwraeth a defnydd cynaliadwy o adnoddau pysgodfeydd o dan y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, sydd wedi eu cofrestru mewn Aelod-wladwriaeth arall; neu
(b) sydd wedi eu cofrestru mewn trydedd wlad.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ci glas” (“tope”) yw'r rhywogaeth Galeorhinus galeus; ac
 mae i “Cymru” yw'r ystyr a roddir i “Wales” gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Gwahardd pysgota
3 

(1) Gwaherddir pysgota am gŵn gleision (heblaw â gwialen a lein).
(2) Os cymerir cŵn gleision ar fwrdd cwch, caniateir eu cadw ar yr amod nad yw cyfanswm y pwysau byw dros 45 cilogram mewn diwrnod.
(3) Ym mharagraff (2), ystyr “pwysau byw” yw pwysau carcasau cŵn gleision wedi eu diberfeddu wedi eu lluosogi â ffactor o 1.125.
Gwahardd trawslwytho
4 
Gwaherddir trawslwytho cŵn gleision.
Gwaherddir glanio
5 
Ni chaiff unrhyw berson lanio yng Nghymru —
(a) cŵn gleision a ddaliwyd â gwialen a lein, neu
(b) cŵn gleision y torrwyd eu pennau.
Pwerau swyddogion pysgodfeydd môr Prydeinig
6 

(1) At ddibenion gorfodi'r Gorchymyn hwn, caiff swyddog arfer y pwerau a ganlyn.
(2) Caiff swyddog fynd ar fwrdd cwch pysgota, gyda neu heb bersonau a bennwyd i gynorthwyo'r swyddog i arfer ei ddyletswyddau, ac at y diben hwnnw caiff ei gwneud yn ofynnol i'r cwch aros a gwneud unrhyw beth arall a fydd yn hwyluso mynd ar fwrdd y cwch.
(3) Caiff swyddog ei gwneud yn ofynnol bod meistr a phersonau eraill sydd ar fwrdd y cwch yn bresennol a chaiff wneud unrhyw archwiliad neu ymchwiliad y mae'n ymddangos i'r swyddog ei bod yn angenrheidiol ei wneud at ddiben gorfodi'r Gorchymyn hwn ac, yn enwedig—
(a) caiff archwilio unrhyw bysgodyn ar y cwch a chyfarpar y cwch, gan gynnwys yr offer pysgota, a'i gwneud yn ofynnol i bersonau ar fwrdd y cwch wneud unrhyw beth y mae'n ymddangos i'r swyddog ei bod yn angenrheidiol ei wneud i hwyluso'r archwiliad;
(b) caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ar fwrdd y cwch ddangos unrhyw ddogfen sy'n ymwneud â'r cwch, â'i waith pysgota neu â gwaith cysylltiedig neu â phersonau ar fwrdd y cwch, sydd yng ngafael neu ym meddiant y person hwnnw a chaiff gymryd copïau o'r cyfryw ddogfen;
(c) at ddibenion cael gwybod a yw'r meistr, perchennog neu siartrwr y cwch wedi cyflawni tramgwydd o dan adran 5 neu 6 o Ddeddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967 fel y'i darllenir gyda'r Gorchymyn hwn, caiff chwilio'r cwch am y cyfrwy ddogfen a chaiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ar fwrdd y cwch wneud unrhyw beth y mae'n ymddangos i'r swyddog ei bod yn angenrheidiol ei wneud at hwyluso'r chwiliad; ac
(ch) pan fo'r cwch yn un mewn perthynas ag ef y mae gan y swyddog reswm i amau bod y cyfryw dramgwydd wedi ei gyflawni, caiff, yn ddarostyngedig i baragraff (4), ymafael yn y cyfryw ddogfen a ddangoswyd i'r swyddog neu a gafwyd ar fwrdd y cwch a'i chadw'n gaeth at ddibenion galluogi i'r ddogfen gael ei defnyddio yn dystiolaeth mewn achos ar gyfer y tramgwydd.
(4) Nid oes dim ym mharagraff (3)(ch) yn galluogi'r swyddog i ymafael yn unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol ei chario ar fwrdd y cwch a'i chadw'n gaeth ac eithrio tra bo'r cwch yn cael ei gadw'n gaeth mewn porthladd.
(5) Pan ymddangoso i swyddog fod unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn wedi ei thorri ar unrhyw adeg, caiff y swyddog—
(a) cymryd, neu ei gwneud yn ofynnol i'r meistr gymryd, y cwch a'i griw i'r porthladd y mae'n ymddangos i'r swyddog mai ef yw'r porthladd cyfleus agosaf; a
(b) cadw'r cwch yn gaeth yn y porthladd, neu ei gwneud yn ofynnol i'r meistr ei gadw'n gaeth yno.
(6) Rhaid i swyddog sy'n cadw cwch yn gaeth neu'n ei gwneud yn ofynnol i gwch gael ei gadw'n gaeth gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig yn datgan y cedwir y cwch yn gaeth neu y mae'n ofynnol cadw'r cwch yn gaeth hyd nes y tynnir yr hysbysiad yn ôl drwy gyflwyno i'r meistr hysbysiad ysgrifenedig arall a lofnodwyd gan swyddog.
(7) Yn yr erthygl hon, ystyr “swyddog” yw swyddog pysgodfeydd môr Prydeinig.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
4 Mehefin 2008