
2008 Rhif 1429 (Cy.148) (C.64)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2008
Gwnaed 4 Mehefin 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 181 a 188(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a dehongli
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2006.
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998; ac
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2006 ac at Atodlenni iddi.
Y Diwrnodau penodedig
3 

(1) Daw darpariaethau Deddf 2006 a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2008 o ran Cymru.
(2) Daw'r darpariaethau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Mehefin 2008.
(3) Daw'r darpariaethau a bennir yn Rhan 3 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2008 o ran Cymru.
Arbed y Codau Ymarfer cyfredol
4 

(1) Er bod adran 40 o Ddeddf 2006 a'r diwygiadau y mae'r adran honno yn ei wneud i adran 84 o Ddeddf 1998 wedi dod i rym, mae Cod Ymarfer Derbyniadau i Ysgolion ac adran 84 o Ddeddf 1998 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol mewn perthynas â'r Cod hwnnw i barhau mewn grym tan y dyddiad a benodir gan Weinidogion Cymru i ddwyn i rym god ar gyfer derbyniadau i ysgolion i ddisodli'r Cod hwnnw.
(2) Er bod adran 40 o Ddeddf 2006 a'r diwygiadau y mae'r adran honno yn ei wneud i adran 84 o Ddeddf 1998 wedi dod i rym, mae Cod Ymarfer Apelau Derbyniadau i Ysgolion  ac adran 84 o Ddeddf 1998 fel y'i deddfwyd yn wreiddiol mewn perthynas â'r Cod hwnnw i barhau mewn grym —
(a) tan y dyddiad a benodir gan Weinidogion Cymru i ddwyn i rym god ar gyfer apelau derbyniadau i ysgolion i ddisodli'r Cod hwnnw, a
(b) o ran unrhyw apêl a wnaed o dan adran 94 o Ddeddf 1998 lle y mae hysbysiad o apêl wedi cael ei roi cyn y dyddiad a benodir gan Weinidogion Cymru i ddwyn i rym god ar gyfer apelau derbyniadau i ysgolion i ddisodli'r Cod hwnnw.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
4 Mehefin 2008
YR ATODLEN
Erthygl 3
RHAN 1 Darpariaethau sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2008 o ran Cymru

Y Ddarpariaeth Y Pwnc
Adran 1 Dyletswyddau o ran safonau uchel a chyflawni potensial
Adran 37(1) a (2)(1)(a) Staff mewn ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol gyda chymeriad crefyddol
Adran 39 Cyfyngiad cyffredinol ar ddethol ar sail gallu
Adran 43 Dyletswydd corff llywodraethu i weithredu penderfyniadau ynghylch derbyniadau
Adran 44 Gwahardd cyfweliadau
Adran 45 Trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion gyda chymeriad crefyddol; ymgynghori a gwrthwynebiadau
Adran 47 Gwrthwynebiadau i drefniadau derbyn
Adran 53 Ysgolion gyda threfniadau cyn 1998 ar gyfer dethol ar sail gallu neu ddawn
Adran 166 Trefniadau cydweithredu:—
 ysgolion a gynhelir a chyrff addysg bellach
Adran 184 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod Diddymu
Yn Atodlen 18, yn Rhan 6 diddymu—
 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adran 5, adran 58(4) yn adran 89, yn is-adran (2), y gair “ and” ar ddiwedd paragraff (c), adran 90(6), (7) a (10) adran 99(1) Diddymu
RHAN 2 Darpariaethau sy'n dod i rym ar 30 Mehefin 2008

Y Ddarpariaeth Y Pwnc
Adran 156 Tynnu ymaith ddyletswydd Arolygiaeth Gweinyddu Llysoedd Ei Mawrhydi i arolygu perfformiad o swyddogaethau Gweinidogion Cymru ynghylch achosion teulu
Adran 175 Diwygiadau amrywiol yn ymwneud â Chymru
Adran 184 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod Diddymu
Atodlen 17 Diwygiadau amrywiol yn ymwneud â Chymru
Yn Atodlen 18, yn Rhan 5 diddymu—
 Deddf Plant 2004, adran 38. Diddymu
RHAN 3 Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Medi 2008 o ran Cymru

Y Ddarpariaeth Y Pwnc
Adran 38 Dyletswyddau cyffredinol cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir
Adran 40 Cod ar gyfer derbyniadau i ysgol
Adran 184 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 18 isod Diddymu
Yn Atodlen 18, yn Rhan 6 diddymu—
 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, yn adran 84(5), y geiriau “of practice”, ym mhob man lle y maent yn digwydd,yn adran 85(1), y geiriau “of practice”. Diddymu