
2008 Rhif 1409 (Cy.146)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008
Gwnaed 30 Mai 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2 Mehefin 2008
Yn dod i rym 1 Awst 2008 ac eithrio'r hyn a ddarperir gan erthyglau 4(1), 5(1), 6(1), 7(1), 8(1), 9(1), 10(1), 11(1), 12(1), 13(1), 14(1), 15(1) a (2)
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 108(3)(a) a (b), (5) ac adran 210 o Ddeddf Addysg 2002 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt ac ar ôl gwneud y trefniadau hynny ar gyfer ymgynghori y maent o'r farn eu bod yn briodol yn unol ag adran 117 o Ddeddf Addysg 2002, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio) (Cymru) 2008 ac yn ddarostyngedig i erthyglau 4(1), 5(1), 6(1), 7(1), 8(1), 9(1), 10(1), 11(1), 12(1), 13(1), 14(1) a 15(1) a (2) isod, daw i rym ar 1 Awst 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y ddogfen addysg gorfforol” (“the physical education document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Addysg gorfforol yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”;
 ystyr “y ddogfen celf a dylunio” (“the art and design document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Celf a dylunio yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”;
 ystyr “y ddogfen dylunio a thechnoleg” (“the design and technology document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Dylunio a thechnoleg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”;
 ystyr “y ddogfen ddaearyddiaeth” (“the geography document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Daearyddiaeth yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”;
 ystyr “y ddogfen fathemateg” (“the mathematics document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Mathemateg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”;
 ystyr “y ddogfen gerddoriaeth” (“the music document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Cerddoriaeth yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”;
 ystyr “y ddogfen Gymraeg” (“the Welsh document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Cymraeg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”;
 ystyr “y ddogfen hanes” (“the history document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Hanes yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”;
 ystyr “y ddogfen ieithoedd tramor modern” (“the modern foreign language document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Ieithoedd tramor modern yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”;
 ystyr “y ddogfen Saesneg” (“the English document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Saesneg yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”;
 ystyr “y ddogfen technoleg gwybodaeth a chyfathrebu” (“the information and communication technology document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”;
 ystyr “y ddogfen wyddoniaeth” (“the science document”) yw'r ddogfen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn Ionawr 2008 sy'n dwyn y teitl “Gwyddoniaeth yng Nghwricwlwm Cenedlaethol Cymru”; acmae cyfeiriadau at y cyfnodau allweddol cyntaf, yr ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol a'r pedwerydd cyfnod allweddol i'w dehongli yn unol ag adran 103 o Ddeddf Addysg 2002.
Dirymu a darpariaethau trosiannol
3 

(1) Dirymir y Gorchmynion a restrir yn yr Atodlen ar 1 Awst 2008.
(2) Er gwaethaf paragraff (1) mae'r darpariaethau yn y Gorchmynion a restrir yn yr Atodlen yn parhau yn gymwys i ddisgyblion yn yr ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol a'r pedwerydd cyfnod allweddol hyd nes y bydd darpariaethau'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt.
Celf a dylunio
4 

(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen celf a dylunio i rym ar—
(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a
(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.
(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen celf a dylunio yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran celf a dylunio.
(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen celf a dylunio (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.
Dylunio a thechnoleg
5 

(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen dylunio a thechnoleg i rym ar—
(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a
(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.
(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen dylunio a thechnoleg yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran dylunio a thechnoleg.
(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen dylunio a thechnoleg (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.
Saesneg
6 

(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen Saesneg i rym ar—
(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol;
(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol;
(c) 1 Awst 2010 o ran disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac
(ch) 1 Awst 2011 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y pedwerydd cyfnod allweddol.
(2) Y darpariaethau ynghylch targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen Saesneg yn cael effaith at ddibenion pennu'r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran Saesneg.
(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen Saesneg (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.
Daearyddiaeth
7 

(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen ddaearyddiaeth i rym ar—
(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a
(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.
(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen ddaearyddiaeth yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran daearyddiaeth.
(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen ddaearyddiaeth (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.
Hanes
8 

(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen hanes i rym ar—
(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a
(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.
(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen hanes yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran hanes.
(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen hanes (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.
Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu
9 

(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen technoleg gwybodaeth a chyfathrebu i rym ar—
(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a
(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.
(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.
(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.
Mathemateg
10 

(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen fathemateg i rym ar—
(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol;
(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol;
(c) 1 Awst 2010 o ran disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac
(ch) 1 Awst 2011 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y pedwerydd cyfnod allweddol.
(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen fathemateg yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran mathemateg.
(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen fathemateg (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.
Ieithoedd tramor modern
11 

(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen ieithoedd tramor modern i rym ar—
(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a
(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.
(2) Y darpariaethau ynghylch targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen ieithoedd tramor modern yn cael effaith at ddibenion pennu'r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran ieithoedd tramor modern.
(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen ieithoedd tramor modern (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.
Cerddoriaeth
12 

(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen gerddoriaeth i rym ar—
(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol; a
(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.
(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen gerddoriaeth yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran cerddoriaeth.
(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen gerddoriaeth (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.
Addysg gorfforol
13 

(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen addysg gorfforol i rym ar—
(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol;
(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol, yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol ac ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac
(c) 1 Awst 2010 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y pedwerydd cyfnod allweddol.
(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen addysg gorfforol yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran addysg gorfforol.
(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen addysg gorfforol (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.
Gwyddoniaeth
14 

(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r ddogfen wyddoniaeth i rym ar—
(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol, yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol ac yn y pedwerydd cyfnod allweddol; a
(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol.
(2) Y darpariaethau ynghylch y targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen wyddoniaeth yn cael effaith at ddibenion pennu'r targed cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran gwyddoniaeth.
(3) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen wyddoniaeth (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.
Cymraeg
15 

(1) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r rhan honno o'r ddogfen Gymraeg sy'n dwyn y teitl “Cymraeg” i rym ar—
(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol;
(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol ac yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol;
(c) 1 Awst 2010 o ran disgyblion ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac
(ch) 1 Awst 2011 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y pedwerydd cyfnod allweddol.
(2) Daw darpariaethau'r Gorchymyn hwn i'r graddau y maent yn ymwneud â'r rhan honno o'r ddogfen Gymraeg sy'n dwyn y teitl “Cymraeg ail iaith” i rym ar—
(a) 1 Awst 2008 o ran disgyblion yn nhair blynedd gyntaf yr ail gyfnod allweddol ac yn nwy flynedd gyntaf y trydydd cyfnod allweddol;
(b) 1 Awst 2009 o ran disgyblion ym mhedwaredd flwyddyn yr ail gyfnod allweddol, yn nhrydedd flwyddyn y trydydd cyfnod allweddol ac ym mlwyddyn gyntaf y pedwerydd cyfnod allweddol; ac
(c) 1 Awst 2010 o ran disgyblion yn ail flwyddyn y pedwerydd cyfnod allweddol.
(3) Y darpariaethau ynghylch targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio a osodir yn y ddogfen Gymraeg yn cael effaith at ddibenion pennu'r targedau cyrhaeddiad a rhaglenni astudio o ran Cymraeg.
(4) Nid yw'r enghreifftiau a argreffir mewn llythrennau italig yn y ddogfen Gymraeg (sy'n egluro'r rhaglenni astudio a ddisgrifir ynddi) yn ffurfio rhan o'r ddarpariaeth a wneir gan y Gorchymyn hwn.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
30 Mai 2008
YR ATODLEN
Gorchmynion a ddirymir
(Erthygl 3)
1 
At ddibenion erthygl 3(1) caiff y Gorchmynion canlynol eu dirymu —
(a) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Addysg Gorfforol) (Cymru) 2000;
(b) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Gwyddoniaeth) (Cymru) 2000;
(c) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Mathemateg) (Cymru) 2000;
(ch) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Cymraeg) 2000;
(d) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Celf) (Cymru) 2000;
(dd) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Saesneg) (Cymru) 2000;
(e) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Daearyddiaeth) (Cymru) 2000;
(f) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Hanes) (Cymru) 2000;
(g) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000;
(ff) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Cerddoriaeth) (Cymru) 2000; ac
(ng) Gorchymyn Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Targedau Cyrhaeddiad a Rhaglenni Astudio mewn Technoleg) (Cymru) 2000.