
2008 Rhif 1408 (Cy.145)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2008
Gwnaed 30 Mai 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2 Mehefin 2008
Yn dod i rym 1 Awst 2008
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 105(4) a (5) a 210 o Ddeddf Addysg 2002 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2008 a daw i rym ar 1 Awst 2008.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dirymu
2 
Dirymir Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Ieithoedd Tramor Modern) (Cymru) 2000.
Ystyr iaith dramor fodern
3 
At ddibenion adran 105 o Ddeddf Addysg 2002 ystyr “iaith dramor fodern” yw unrhyw iaith dramor fodern.
Penderfyniad gan Weinidogion Cymru
4 

(1) Mae unrhyw gwestiwn ynghylch a yw iaith dramor benodol yn iaith dramor fodern at ddibenion adran 105 o Ddeddf Addysg 2002 i'w benderfynu gan Weinidogion Cymru.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud dyfarniad o dan baragraff (1) yn sgil cais gan unrhyw berson neu o'u hysgogiad eu hunain.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
30 Mai 2008