
2008 Rhif 137 (Cy.19)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed 22 Ionawr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 24 Ionawr 2008
Yn dod i rym 22 Chwefror 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd,cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) (Diwygio) 2008, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 22 Chwefror 2008.
Diwygio Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003
2 
Diwygir Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003 yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3 
Yn rheoliad 2 (dehongli), hepgorer y geiriau “yn uniongyrchol” o'r diffiniadau o “llaeth wedi'i ddadhydradu'n rhannol” a “llaeth wedi'i ddadhydradu'n llwyr”.
4 
Yn y Nodiadau i Atodlen 1 (cynhyrchion llaeth sydd wedi'u dadhydradu a'u preserfio yn rhannol neu'n llwyr a'u disgrifiadau neilltuedig) —
(a) Yn lle Nodyn 1, rhodder y canlynol—“
1 
Ychwanegiadau a awdurdodir a deunyddiau crai:
(a) Caiff unrhyw gynnyrch dynodedig gynnwys unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau Aelod-wladwriaethau ynghylch ychwanegion bwyd yr awdurdodir eu defnyddio mewn bwydydd y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl a fitaminau a mwynau yn unol â gofynion Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau eraill penodol at fwydydd.
(b) Dyma'r deunyddiau crai a awdurdodir at ddibenion addasu protein y cyfeirir ato yn Nodyn 4:
(i) Anathreiddiad llaeth, sef y cynnyrch a geir wrth grynodi protein llaeth drwy drahidlo llaeth, llaeth rhannol sgim neu laeth llwyr sgim;
(ii) Athreiddiad llaeth, sef y cynnyrch a geir drwy dynnu proteinau llaeth a braster llaeth allan o laeth, llaeth rhannol sgim neu laeth llwyr sgim drwy ei drahidlo; a
(iii) Lactos, sydd yn ansoddyn naturiol mewn llaeth a geir fel arfer o faidd â'i gynnwys lactos anhydrus nad yw'n llai na 99.0% m/m ar sail sych. Gall fod yn anhydrus neu gynnwys un moleciwl o ddwr o grisialiad neu fod yn gymysgedd o'r ddwy ffurf.”.
(b) Yn Nodyn 3, yn lle'r indent cyntaf rhodder y canlynol —“
3 
Heb ragfarn i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid, llwyddir i breserfio'r cynnyrch dynodedig—”.
(c) Yn lle Nodyn 4, rhodder y canlynol—“
4 
Heb ragfarnu'r gofynion cyfansoddiadol a osodir yn y tabl uchod, caniateir addasu cynnwys y protein mewn llaeth i gynnwys isafswm o 34% yn ôl pwysau (wedi'i fynegi ar fater sych sy'n rhydd o fraster) drwy ychwanegu a/neu dynnu ansoddau llaeth yn y fath fodd fel na newidir y gymhareb o brotein maidd i'r casein yn y llaeth sy'n cael ei addasu.”.
(ch) Fel Nodyn 5 ychwaneger y canlynol —“
5 
Penderfynir y lefelau o fater sych, cynnwys lleithder, braster, swcros, asid lactig a lactadau a gweithgaredd ffosffatas yn y cynnyrch dynodedig yn unol â'r dulliau a osodir yng Nghyfarwyddeb 79/1067.”.
Diwygiadau canlyniadol
5 
Yn Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, ym mharagraff 6 o Atodlen 2, ar ôl yr ymadrodd “Directive 2001/114/EC” ychwaneger y geiriau “as amended by Directive 2007/61/EC”.
6 
Yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, yng ngholofn 1 o Atodlen 7, ar ôl yr ymadrodd “Partially dehydrated and totally dehydrated milk as defined in Directive 2001/114/EC” ychwaneger y geiriau “as amended by Directive 2007/61/EC”.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
22 Ionawr 2008