
2008 Rhif 1341 (Cy.141)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008
Gwnaed 21 Mai 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 22 Mai 2008
Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1), 17(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra'r oedd y Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2008.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr sydd i'r ymadrodd “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;
 ystyr “darpariaeth Gymunedol” (“Community provision”) yw darpariaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6(2);
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “fitamin A” (“vitamin A”) yw fitamin A sy'n bresennol fel y cyfryw neu ar ffurf ei esterau ac mae'n cynnwys beta-caroten ar y sail bod 6 microgram o feta-caroten neu 12 microgram o garotenau eraill sy'n fiolegol actif yn hafal i un microgram o gyfwerth retinol;
 ystyr “fitamin D” (“vitamin D”) yw'r fitaminau gwrth-lechau;
 mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu ar rywbeth i'w werthu, a chynnig rhywbeth, ei roi ar ddangos neu ei hysbysebu i'w werthu;
 ystyr “manwerthu” (“sell by retail”) yw gwerthu i berson nad yw'n prynu er mwyn adwerthu;
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007 sy'n gosod rheolau manwl penodol ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94 sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy a Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1898/87 ar ddiogelu dynodiadau a ddefnyddir i farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth;
 ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol (CFA) ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (Rheoliad CFA Sengl).
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny yn Rheoliad y Cyngor neu Reoliad y Comisiwn.
Esemptiadau rhag y Rheoliadau hyn
3 

(1) Ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys, onid oes, a hyd oni fydd, penderfyniad gan Gydbwyllgor yr AEE i ddiwygio Cytundeb yr AEE o dan Erthygl 98 fel y bydd yn cyfeirio at Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn, ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn cysylltiad ag unrhyw fraster taenadwy y mae Cytundeb yr AEE yn gymwys iddo ac—
(a) y daethpwyd ag ef i Gymru —
(i) o Wladwriaeth AAE (ac eithrio Aelod-wladwriaeth) lle cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithlon, neu
(ii) o ran arall o'r Deyrnas Unedig os daethpwyd â'r braster taenadwy hwnnw yno o Wladwriaeth AAE o'r fath; a
(b) sydd wedi'i labelu'n addas i ddangos natur y braster taenadwy.
(2) Ni fydd rheoliad 4 yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fargarîn —
(a) y daethpwyd ag ef i Gymru —
(i) o Wladwriaeth AAE (ac eithrio'r Deyrnas Unedig) lle cafodd ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithlon,
(ii) o Aelod-wladwriaeth (ac eithrio'r Deyrnas Unedig) lle'r oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithlon, neu
(iii) o ran arall o'r Deyrnas Unedig lle'r oedd yn cael ei gynhyrchu a'i werthu'n gyfreithlon neu mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithlon; a
(b) sydd wedi'i labelu'n addas i ddangos natur y margarîn.
(3) At ddibenion paragraff (2), mae i “cylchrediad rhydd” yr un ystyr â “free circulation” yn Erthygl 23(2) o'r Cytuniad a sefydlodd y Gymuned Ewropeaidd.
Cynnwys margarîn o ran fitaminau
4 
Ni chaiff neb fanwerthu unrhyw fargarîn onid yw'n cynnwys ym mhob 100 gram —
(a) dim llai nag 800 microgram a dim mwy na 1,000 o ficrogramau o fitamin A, a
(b) dim llai na 7.05 microgram a dim mwy nag 8.82 ficrogram o fitamin D,a swm cymesur mewn unrhyw ran o 100 gram.
Gorfodi
5 
Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal weithredu a gorfodi'r darpariaethau Cymunedol a'r Rheoliadau hyn.
Tramgwyddau a chosb
6 

(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o'r canlynol, neu'n methu â chydymffurfio â'r naill neu'r llall ohonynt, sef —
(a) rheoliad 4; neu
(b) unrhyw ddarpariaeth Gymunedol,
yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Y darpariaethau Cymunedol yw —
(a) Erthygl 114(1) o Reoliad y Cyngor (disgrifiadau rhagnodedig ar gyfer llaeth a chynhyrchion llaeth) fel y'i darllenir gydag Atodiad XII i'r Rheoliad hwnnw;
(b) Erthygl 115 o Reoliad y Cyngor (safonau marchnata sy'n gymwys i frasterau taenadwy, gan gynnwys meini prawf cyfansoddiadol ar gyfer disgrifiadau neilltuedig), fel y'i darllenir gydag —
(i) Atodiad XV i Reoliad y Cyngor,
(ii) Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn ac Atodiad I iddo, neu
(iii) Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn ac Atodiad II iddo; ac
(c) Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (gofynion sy'n ymwneud â defnyddio'r dynodiad “butter” ar gyfer cynhyrchion cyfansawdd) fel y'i darllenir gydag Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw.
Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf
7 

(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a) adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);
(b) adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta);
(c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch) adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy), fel y bo'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15;
(d) adran 22 (amddiffyniad cyhoeddi wrth gynnal busnes);
(dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e) adran 33 (rhwystro swyddogion);
(f) adran 35(1) i (3) (cosbi am dramgwyddau), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) a (2);
(ff) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(g) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd).
(2) Bydd adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll) o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad at y Ddeddf yn yr adran honno at ddibenion y Rheoliadau hyn fel un sy'n cynnwys cyfeiriad at y darpariaethau Cymunedol.
Dirymiadau
8 
Mae'r offerynnau canlynol wedi'u dirymu —
(a) Rheoliadau Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) 1990, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru;
(b) Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001;
(c) Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) (Diwygio) 2007.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
21 Mai 2008