
2008 Rhif 1314 (Cy.136)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed 14 Mai 2008
Yn dod i rym 6 Mehefin 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 7 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) (Diwygio) 2008. Mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 6 Mehefin 2008.
Diwygio Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003
2 

(1) Mae Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2, hepgorer y diffiniad o “milfeddyg”.
(3) Yn lle paragraff (3) o erthygl 14, rhodder—“
(3) Rhaid i bob anifail sy'n cael ei symud o dan drwydded benodol gael ei gadw ar wahân i unrhyw anifail nad yw'n cael ei symud o dan awdurdod y drwydded honno, a hynny ar hyd y daith.”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
14 Mai 2008