
2008 Rhif 1286 (Cy.135)
TRAFNIDIAETH, CYMRU
Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed 13 Mai 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 14 Mai 2008
Yn dod i rym 12 Mehefin 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 109C o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 ac a freiniwyd bellach ynddynt drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) (Diwygio) 2008. Daw i rym ar 12 Mehefin 2008 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006
2 

(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (Cymru) 2006 wedi'i ddiwygio'n unol â pharagraff (2).
(2) Yn erthygl 5, yn lle “30 Mehefin 2008”, rhodder “30 Mehefin 2009”.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
13 Mai 2008