
2008 Rhif 1275 (Cy.132)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008
Gwnaed 8 Mai 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 9 Mai 2008
Yn dod i rym 3 Mehefin 2008

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972:
RHAN 1 Cyflwyniad
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Rheoli Clefydau) (Cymru) 2008; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 3 Mehefin 2008.
Dehongli cyffredinol
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “anifail” (“animal”) yw unrhyw famal;
 ystyr “anifeiliaid hela gwyllt” (“wild game”) yw anifail gwyllt sy'n cael ei hela i'w fwyta gan bobl;
 ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw arolygydd a benodwyd felly gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod lleol at ddibenion y Rheoliadau hyn neu'r Ddeddf ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae'n cynnwys arolygydd milfeddygol;
 ystyr “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd o'r fath gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn neu'r Ddeddf;
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;
 ystyr “canolfan driniaeth” (“treatment centre”) yw mangre a ddynodwyd o dan reoliad 5 at ddibenion trin cig o dan un o'r triniaethau a restrir yn Atodlen 2;
 mae “cerbyd” (“vehicle”) yn cynnwys—
(a) trelar, lled-drelar neu rywbeth arall a ddyluniwyd neu a addaswyd i gael ei dynnu gan gerbyd arall;
(b) rhan o unrhyw gerbyd y gellir ei datgysylltu;
(c) cynhwysydd neu strwythur arall a ddyluniwyd neu a addaswyd ar gyfer ei gario ar gerbyd;
 ystyr “cig” (“meat”) yw unrhyw ran o garcas naill ai anifail neu ddofednyn a fwriadwyd ar gyfer ei fwyta gan bobl, ac mae'n cynnwys cynnyrch sy'n deillio o brosesu cig o'r anifail neu'r dofednyn hwnnw neu gynnyrch sy'n deillio o brosesu pellach y cyfryw gynnyrch cig a broseswyd;
 ystyr “cigydda” (“slaughter”) yw lladd ar gyfer cynhyrchu bwyd i'w fwyta gan bobl ond nid yw'n cynnwys lladd anifeiliaid hela gwyllt;
 ystyr “clefyd” (“disease”) yw unrhyw un o'r canlynol: clwy clasurol y moch; clwy Affricanaidd y moch; clefyd pothellog y moch; rinderpest; pla'r defaid a'r geifr, clefyd Newcastle;
 ystyr “cyflenwi” (“supply”) yw cyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i berson sydd wedyn yn cyflenwi i'r defnyddiwr olaf ac mae'n cynnwys llwyth ar gyfer ei werthu;
 ystyr “deddfwriaeth clefydau” (“disease legislation”) yw unrhyw ddeddfwriaeth a restrir yn Atodlen 1;
 ystyr “dofednod” (“poultry”) yw pob rhywogaeth o ddofednod a fegir neu a gedwir mewn caethiwed ar gyfer cynhyrchu cig neu wyau i'w bwyta gan bobl, cynhyrchu cynhyrchion masnachol eraill i'w bwyta gan bobl, ailstocio cyflenwadau o anifeiliaid hela neu at ddibenion unrhyw raglen fridio ar gyfer cynhyrchu'r categorïau hyn o adar;
 ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y cadarnhawyd bod clefyd mewn mangre heintiedig neu mewn sefydliad neu ddyddiad yr heintiad cynharaf os bydd Gweinidogion Cymru yn pennu dyddiad o'r fath;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981;
 ystyr “lladd-dy” (“slaughterhouse”) yw sefydliad lle y mae cigydda a thrin unrhyw anifail neu ddofednyn yn digwydd;
 ystyr “mangre” (“premises”) yw unrhyw dir, adeilad neu le a ddefnyddir mewn busnes, heblaw lladd-dy neu sefydliad trin anifeiliaid hela;
 ystyr “meddiannydd” (“occupier”), o ran unrhyw fangre neu sefydliad, yw'r person sydd â gofal am y fangre honno neu'r sefydliad hwnnw;
 ystyr “sefydliad” (“establishment”) yw lladd-dy neu sefydliad trin anifeiliaid hela; ac
 ystyr “sefydliad trin anifeiliaid hela” (“game handling establishment”) yw sefydliad lle y paratoir carcasau anifeiliaid hela gwyllt.
Anifail, dofednod a chig dan gyfyngiadau: diffiniadau
3 

(1) Yn y Rheoliadau hyn, “anifail dan gyfyngiadau” (“restricted animal”) yw anifail—
(a) sydd ar, mewn neu o—
(i) mangre dan amheuaeth;
(ii) sefydliad lle yr amheuir bod clefyd yno;
(iii) mangre heintiedig;
(iv) sefydliad lle y cadarnheir bod clefyd yno;
(v) ardal heintiedig;
(vi) parth gwarchod; neu
(vii) parth goruchwylio; a
(b) o rywogaeth a allai gael y clefyd y gosodwyd cyfyngiadau ynglŷn â hi o dan ddeddfwriaeth clefydau.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, “dofednod dan gyfyngiadau” (“restricted poultry”) yw dofednod sydd ar, mewn neu o unrhyw un o'r canlynol o dan Orchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003—
(a) mangre dan amheuaeth;
(b) lladd-dy lle yr amheuir bod clefyd yno;
(c) mangre heintiedig;
(ch) lladd-dy lle y cadarnheir bod clefyd yno;
(d) ardal heintiedig;
(dd) parth gwarchod; neu
(e) parth gwyliadwriaeth.
(3) “Mangre dan amheuaeth” (“suspect premises”) yw mangre lle y mae cyfyngiadau symud ar waith o dan ddeddfwriaeth clefydau oherwydd amheuir bod clefyd yno.
(4) “Mangre heintiedig” (“infected premises”) yw mangre lle y cadarnhawyd bod clefyd yno o dan ddeddfwriaeth clefydau.
(5) “Ardal heintiedig” (“infected area”) yw ardal sy'n dwyn yr enw hwn drwy ddatganiad gan Weinidogion Cymru o dan ddeddfwriaeth clefydau yn dilyn cadarnhad o glefyd.
(6) “Parth gwarchod” (“protection zone”) yw ardal sy'n dwyn yr enw hwn drwy ddatganiad gan Weinidogion Cymru o dan ddeddfwriaeth clefydau yn dilyn cadarnhad o glefyd.
(7) “Parth goruchwylio” (“surveillance zone”) yw ardal sy'n dwyn yr enw hwn drwy ddatganiad gan Weinidogion Cymru o dan ddeddfwriaeth clefydau yn dilyn cadarnhad o glefyd.
(8) “Cig dan gyfyngiadau” (“restricted meat”) yw cig a gynhyrchwyd o'r dyddiad perthnasol o anifail dan gyfyngiadau neu o ddofednod dan gyfyngiadau o ardal heintiedig, parth gwarchod neu barth goruchwylio na chafodd ei drin yn unol ag Atodlen 2 mewn canolfan driniaeth, ac mae'n cynnwys cig a ddaeth i gyffyrddiad â'r cyfryw gig.
Hysbysiadau
4 
O ran hysbysiadau o dan y Rheoliadau hyn—
(a) rhaid iddynt fod yn ysgrifenedig; a
(b) ceir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu drwy hysbysiad pellach ar unrhyw adeg.
Dynodi mangreoedd, lladd-dai a sefydliadau trin anifeiliaid hela
5 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddynodi unrhyw sefydliad neu fangre at ddibenion cigydda anifeiliaid neu ddofednod, neu dorri, paratoi, prosesu, pacio, lapio, storio neu drin cig.
(2) O ran dynodi o dan y Rheoliadau hyn—
(a) rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(b) caiff fod yn ddarostyngedig i amodau; ac
(c) ceir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad.
(3) Mae mangreoedd a sefydliadau a ddynodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion yr Alban neu Adran Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig Gogledd Iwerddon ar gyfer yr un dibenion ag y ceir eu dynodi o dan y Rheoliadau hyn yn fangreodd neu'n sefydliadau dynodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(4) Yn y Rheoliadau hyn, mae “dynodedig” (“designated”) yn cyfeirio at fangreoedd a sefydliadau sy'n ddynodedig o dan y rheoliad hwn.
Cyfyngiadau ynghylch symudiadau o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon
6 

(1) Oni fydd Gweinidogion Cymru'n cyfarwyddo fel arall, mae mesurau yn y Rheoliadau hyn sy'n gymwys o ran unrhyw beth a symudir o unrhyw fangreoedd, sefydliadau, ardaloedd neu barthau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3 hefyd yn gymwys o ran symudiad o'r fath o unrhyw fangre, sefydliad, ardal neu barth cyfatebol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
(2) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys ond dim ond os yw'r person y mae'r mesur yn gymwys iddo yn ymwybodol neu os dylai'n rhesymol fod wedi bod yn ymwybodol bod y symud o fangre, sefydliad, ardal neu barth o'r fath.
RHAN 2 Rheolaeth ar gig o anifeiliaid neu ddofednod dan gyfyngiadau
Cig o fangre dan amheuaeth neu fangre heintiedig
7 

(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar gig sy'n dod o anifail dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau sy'n deillio o fangre dan amheuaeth o'r dyddiad perthnasol, neu gig a ddaeth i gyffyrddiad â'r cyfryw gig, ddal gafael ar y cig hwnnw hyd nes y bydd y fangre honno yn peidio â bod bellach yn fangre dan amheuaeth.
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys ond dim ond os yw'r person sy'n meddu ar y cig yn ymwybodol neu os dylai'n rhesymol fod wedi bod yn ymwybodol fod y cig yn dod o anifail dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau sy'n deillio o fangre dan amheuaeth o'r dyddiad perthnasol, neu'n gig a ddaeth i gyffyrddiad â'r cyfryw gig.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar gig a gynhyrchwyd o anifail dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau sy'n deillio o fangre dan amheuaeth o'r dyddiad perthnasol, neu gig a ddaeth i gyffyrddiad â'r cyfryw gig, ddistrywio'r cig hwnnw'n ddi-oed.
Olrhain cig o fangre heintiedig
8 
Rhaid i unrhyw berson a fu'n berchen neu'n meddu ar gig y cyfeirir ato yn rheoliad 7(3)—
(a) wneud ei orau i olrhain y cig hwnnw; a
(b) hysbysu derbynnydd y cig hwnnw, heblaw defnyddiwr, bod y cig yn dod o fangre heintiedig.
Gwahardd cyflenwi ac allforio cig
9 

(1) Rhaid i berson beidio —
(a) cyflenwi cig dan gyfyngiadau; neu
(b) allforio cig dan gyfyngiadau.
(2) Nid yw'r gwaharddiad ym mharagraff (1)(a) yn gymwys i gig dan gyfyngiadau o ddofednod dan gyfyngiadau a fwriadwyd ar gyfer cyflenwi'r farchnad ddomestig ar yr amod—
(a) bod meddiannydd y lladd-dy lle y cynhyrchwyd y cig wedi cydymffurfio â rheoliadau 10, 12, 13 a 15(1) a (2);
(b) bod unrhyw berson sy'n meddu ar y cig yn cydymffurfio â rheoliadau 12(2) a 13; ac
(c) bod meddiannydd y fangre lle y mae torri, paratoi, prosesu, pacio, lapio, storio neu drin y cig yn digwydd yn cydymffurfio â rheoliadau 13 a 15(2) a (3).
(3) Y “farchnad ddomestig” (“domestic market”) yw'r farchnad ar gyfer gwerthu cig dofednod yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Lladd-dai
10 

(1) Caiff meddiannydd lladd-dy gigydda anifeiliaid dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau ond dim ond os yw'r lladd-dy'n ddynodedig.
(2) Rhaid i feddiannydd lladd-dy sicrhau—
(a) bod anifeiliaid dan gyfyngiadau yn cael eu cadw ar wahân i anifeiliaid eraill;
(b) bod anifeiliaid dan gyfyngiadau yn cael eu cigydda ar wahân i anifeiliaid eraill;
(c) bod dofednod dan gyfyngiadau yn cael eu cadw ar wahân i ddofednod eraill;
(ch) bod dofednod dan gyfyngiadau yn cael eu cigydda ar wahân i ddofednod eraill.
(3) Rhaid i feddiannydd lladd-dy sy'n cymryd anifeiliaid dan gyfyngiadau na chafodd eu cadw ar wahân i anifeiliaid eraill neu sydd heb gadw anifeiliaid dan gyfyngiadau ar wahân i anifeiliaid eraill, pan gaiff hysbysiad gan arolygydd milfeddygol, drin yr anifeiliaid eraill hynny fel anifeiliaid dan gyfyngiadau.
(4) Rhaid i feddiannydd lladd-dy sy'n cymryd dofednod dan gyfyngiadau na chafodd eu cadw ar wahân i ddofednod eraill neu sydd heb gadw dofednod dan gyfyngiadau ar wahân i ddofednod eraill, pan gaiff hysbysiad gan arolygydd milfeddygol, drin y dofednod eraill hynny fel dofednod dan gyfyngiadau.
(5) Rhaid i feddiannydd lladd-dy lle yr amheuir bod clefyd yno neu lle y cadarnheir bod clefyd yno ddal gafael ar yr holl gig sydd yn y lladd-dy nes bod arolygydd milfeddygol yn hysbysu'r meddiannydd hwnnw fod yr arolygydd wedi'i fodloni nad oes angen dal gafael bellach yn yr holl gig neu rywfaint o'r cig hwnnw i leihau'r risg o drosglwyddo clefyd.
Sefydliadau trin anifeiliaid hela
11 

(1) Caiff meddiannydd sefydliad trin anifeiliaid hela dderbyn cig dan gyfyngiadau ond dim ond os yw'r sefydliad hwnnw'n ddynodedig.
(2) Rhaid i feddiannydd sefydliad trin anifeiliaid hela lle yr amheuir bod clefyd yno neu lle y cadarnheir bod clefyd yno ddal gafael ar yr holl gig sydd yn y sefydliad trin anifeiliaid hela nes bod arolygydd milfeddygol yn hysbysu'r meddiannydd hwnnw fod yr arolygydd wedi'i fodloni nad oes angen dal gafael bellach yn yr holl gig neu rywfaint o'r cig hwnnw i leihau'r risg o drosglwyddo clefyd.
Derbyn a meddu ar gig dan gyfyngiadau
12 

(1) Caiff meddiannydd unrhyw fangre neu sefydliad dderbyn cig dan gyfyngiadau ond dim ond os yw'r fangre honno neu'r sefydliad hwnnw'n ddynodedig.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar gig dan gyfyngiadau ei gadw ar wahân i gig arall.
Marcio cig
13 

(1) Rhaid i feddiannydd sefydliad sicrhau bod cig dan gyfyngiadau wedi'i farcio yn unol ag Atodlen 3.
(2) Rhaid i berson beidio â bod â chig dan gyfyngiadau yn ei feddiant neu dan ei reolaeth onid yw wedi'i farcio yn unol ag Atodlen 3.
(3) Rhaid i berson beidio â thynnu oddi yno farc a osodwyd o dan y rheoliad hwn ac eithrio er mwyn galluogi torri, paratoi, prosesu, pacio neu drin cig dan gyfyngiadau.
(4) Rhaid i unrhyw berson sy'n tynnu oddi yno farc a osodwyd o dan y rheoliad hwn, heblaw person sy'n trin cig mewn canolfan driniaeth â thriniaeth a restrir yn Atodlen 2, ailosod y marc, ynghyd â rhif cymeradwyo priodol y safle, ar ôl torri, paratoi, prosesu, pacio neu drin y cig.
Symud cig dan gyfyngiadau
14 
Ni chaiff neb gludo na threfnu cludo cig dan gyfyngiadau i fangre neu sefydliad onid yw'r fangre honno neu'r sefydliad hwnnw'n ddynodedig.
Cadw cofnodion
15 

(1) Rhaid i feddiannydd lladd-dy lle y cigyddir anifail dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau wneud cofnodion o'r canlynol—
(a) y nifer a'r math o anifeiliaid dan gyfyngiadau neu ddofednod dan gyfyngiadau a gigyddwyd;
(b) dyddiad y cyfryw gigydda;
(c) y clefyd a achosodd i'r anifeiliaid neu'r dofednod fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau o dan y ddeddfwriaeth clefydau.
(2) Rhaid i unrhyw berson sydd â chig dan gyfyngiadau yn ei feddiant wneud cofnodion o'r canlynol—
(a) pa faint o gig dan gyfyngiadau a drafodwyd;
(b) y clefyd a achosodd i'r cig fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau o dan y ddeddfwriaeth clefydau;
(c) pa faint o gig dan gyfyngiadau a osodwyd mewn storfa oer a'i symud oddi yno;
(ch) dyddiad y cyfryw symud i storfa oer neu ohoni;
(d) pa faint o gig dan gyfyngiadau a waredwyd fel sgil-gynnyrch anifail.
(3) Rhaid i feddiannydd canolfan driniaeth lle y caiff cig dan gyfyngiadau ei drin gadw cofnodion o'r canlynol—
(a) dyddiad y driniaeth;
(b) rhywogaeth yr anifail y daeth y cig ohono;
(c) pa faint o gig a driniwyd;
(ch) y driniaeth a roddwyd.
(4) Rhaid cadw cofnodion a wnaed o dan y rheoliad hwn am o leiaf 3 blynedd o ddyddiad y cigydda, y symud neu'r driniaeth y maent yn cyfeirio ato neu ati.
RHAN 3 Gofynion eraill
Gofynion o ran llaeth a chynhyrchion llaeth
16 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan bod gofynion o ran llaeth a chynhyrchion llaeth yn gymwys os ydynt o'r farn bod y gofynion hynny yn angenrheidiol i leihau'r risg o ymlediad clefyd.
(2) Mae “llaeth a chynhyrchion llaeth” (“milk and milk products”) yn cynnwys llaeth gwartheg, llaeth geifr, llaeth mamogiaid a chynhyrchion a gafwyd o'r cyfryw laeth a fwriadwyd ym mhob achos ar gyfer ei yfed neu ei fwyta gan bobl.
(3) O ran datganiad o dan baragraff (1)—
(a) rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;
(b) ceir ei ddiwygio drwy ddatganiad pellach ar unrhyw bryd; ac
(c) dim ond drwy ddatganiad pellach y gellir ei ddirymu.
RHAN 4 Arolygu, tramgwyddau a gorfodi
Pwerau a dyletswyddau arolygwyr
17 

(1) Caiff arolygydd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, ar bob adeg resymol fynd i unrhyw fangre, sefydliad neu gerbyd er mwyn sicrhau y cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn.
(2) Caiff arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol bod person sydd ag unrhyw gig yn ei feddiant yn dal gafael yn y cig hwnnw mewn man a bennir gan yr arolygydd.
(3) Caiff arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol bod person sydd â chig yn ei feddiant yn gwaredu'r cig hwnnw.
(4) Caiff arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol bod person sydd â chig yn ei feddiant yn trin y cig hwnnw.
(5) Caiff arolygydd gyflawni'r ymholiadau, archwiliadau a phrofion hynny a chymryd y samplau hynny y mae o'r farn bod eu hangen.
(6) Caiff arolygydd farcio unrhyw anifail, cig neu beth arall at ddibenion eu hadnabod.
(7) Caiff arolygydd, drwy hysbysu meddiannydd unrhyw fangre neu sefydliad, ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gig yn cael ei farcio.
(8) Caiff arolygydd, drwy hysbysu meddiannydd unrhyw fangre neu sefydliad, ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw gig y mae'r meddiannydd wedi ei drafod yn cael ei olrhain.
(9) Caiff arolygydd, drwy hysbysu meddiannydd unrhyw fangre neu sefydliad, ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw ran o'r fangre honno yn cael ei glanhau a'i diheintio.
(10) Caiff arolygydd, drwy hysbysu'r person sydd â gofal am unrhyw beth, ei gwneud yn ofynnol bod y peth hwnnw'n cael ei lanhau a'i ddiheintio.
(11) Caiff arolygydd, drwy hysbysu meddiannydd unrhyw fangre neu sefydliad, neu'r person sydd â gofal am unrhyw anifail neu beth ei gwneud yn ofynnol—
(a) bod yr anifail, neu beth yn cael ei ynysu mewn man penodedig;
(b) bod unrhyw anifail, neu beth yn cael ei wahanu oddi wrth unrhyw anifail arall neu beth arall.
(12) Caiff arolygydd archwilio a chopïo unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cedwir hwy) sy'n cael eu cadw o dan y Rheoliadau hyn a mynd â'r cofnodion hynny oddi yno er mwyn eu copïo.
(13) Caiff arolygydd archwilio a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â llunio a chadw cofnodion o dan y Rheoliadau hyn.
(14) Caiff arolygydd yn ei gwneud yn ofynnol bod cofnodion cyfrifiadurol yn cael eu llunio ar ffurf y gellir ei dwyn ymaith.
(15) Caiff arolygydd sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre, sefydliad neu gerbyd fynd â'r canlynol gydag ef—
(a) y personau eraill hynny y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol; a
(b) unrhyw gynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd.
(16) Os bydd arolygydd yn mynd i mewn i unrhyw fangre nad yw wedi'i meddiannu neu i unrhyw sefydliad nad yw wedi'i feddiannu rhaid iddo eu gadael wedi'u diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag oeddent pan aeth yno gyntaf.
Darparu cymorth rhesymol, gwybodaeth a chydweithrediad
18 
Rhaid i unrhyw berson y mae unrhyw ofyniad ar ei gyfer yn gymwys o dan y Rheoliadau hyn, neu unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo roi cymorth rhesymol neu wybodaeth resymol i berson sy'n gweithredu'r Rheoliadau hyn, onid oes gan y person hwnnw achos rhesymol, wneud hynny'n ddi-oed.
Costau cydymffurfio
19 
Rhaid i'r costau a dynnir gan unrhyw berson wrth gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol, neu drwy beidio â chymryd camau a waherddir, o dan y Rheoliadau hyn gael eu talu gan y person hwnnw oni fydd Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo fel arall mewn ysgrifen.
Pwerau arolygwyr os ceir diffyg
20 
Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn neu oddi tanynt, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y gofyniad yn cael ei fodloni ar draul y person hwnnw.
Tramgwyddau ac achosion
21 

(1) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys fel petai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf—
(a) adran 66 (gwrthod a rhwystro);
(b) adran 71A (erlyniadau: terfyn amser);
(c) adran 73 (tramgwyddau cyffredinol);
(ch) adran 77 (arian y gellir ei adennill yn ddiannod);
(d) adran 79(1) i (4) (tystiolaeth a gweithdrefn).
(2) Mae adran 75 o'r Ddeddf (cosbau am dramgwyddau diannod penodol) yn gymwys fel pe bai'r Rheoliadau hyn yn Orchymyn a wnaed o dan y Ddeddf ac eithrio bod rhaid i unrhyw gyfnod o garchar ar gollfarn ddiannod beidio â bod yn hwy na thri mis.
Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
22 

(1) Os dangosir bod tramgwydd a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—
(a) wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu
(b) i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y swyddog,
bydd y swyddog yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o dramgwydd ac yn atebol i gael achos yn ei erbyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(2) Os bydd materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys o ran gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelodau mewn cysylltiad â'u swyddogaethau rheoli fel pe baent yn gyfarwyddwyr y corff.
(3) Ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol yw cyfarwyddwr, aelod o bwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath.
Datgymhwyso darpariaethau i unrhyw berson sy'n gweithredu neu'n gorfodi'r Rheoliadau hyn
23 
Nid fydd unrhyw waharddiad neu gyfyngiad ar symud neu ddefnyddio unrhyw beth o dan y Rheoliadau hyn yn gymwys ar gyfer y canlynol wrth iddynt weithredu neu orfodi'r Rheoliadau hyn—
(a) Gweinidogion Cymru;
(b) arolygydd awdurdod lleol;
(c) unrhyw berson arall a awdurdodir gan Weinidogion Cymru neu gan yr awdurdod lleol i gyflawni'r cyfryw weithredu neu orfodi.
Gorfodi
24 
Mae'r Rheoliadau hyn i'w gorfodi gan—
(a) Gweinidogion Cymru mewn unrhyw sefydliad neu safle torri; neu
(b) yr awdurdod lleol, oni fydd Gweinidogion Cymru'n cyfarwyddo fel arall.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
8 Mai 2008
ATODLEN L
Deddfwriaeth clefydau
Rheoliad 2
1 
Gorchymyn Clwy Affricanaidd y Moch (Cymru) 2003
2 
Gorchymyn Pla'r Gwartheg 1928
3 
Gorchymyn Clwy Clasurol y Moch (Cymru) 2003
4 
Gorchymyn Symud Anifeiliaid (Cyfyngiadau) (Cymru) 2003
5 
Gorchymyn Clefyd Pothellog y Moch 1972
6 
Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003
ATODLEN 2
Triniaethau cig a gymeradwyir
Rheoliad 2


Y driniaeth i'r cig Y clefydau y mae'r driniaeth yn effeithiol yn eu herbyn

(a) Triniaeth wresogi mewn cynhwysydd aerglos â gwerth F o 3 neu fwy (lle F yw effaith lladd sborau bacterol: mae gwerth F o 3 yn golygu bod y pwynt oeraf yn y cynnyrch wedi'i wresogi'n ddigonol i gyflawni'r un effaith ladd â 121°C mewn tair munud gyda chynhesu ac oeri enydaidd) Pob clefyd

(b) Triniaeth wresogi ar dymheredd sydd o leiaf yn 70°C y mae'n rhaid ei gyrraedd ym mhob cwr o'r cig Pob clefyd ac eithrio clwy Affricanaidd y moch

(c) Triniaeth wresogi ar dymheredd sydd o leiaf yn 80°C y mae'n rhaid ei gyrraedd ym mhob cwr o'r cig Pob clefyd

(ch) Triniaeth wresogi mewn cynhwysydd aerglos hyd at o leiaf 60°C am o leiaf 4 awr ac yn ystod yr amser hwn rhaid i'r tymheredd craidd fod o leiaf yn 70°C am 30 o funudau Pob clefyd ac eithrio Clefyd Newcastle

(d) Eplesu ac aeddfedu am gyfnod heb fod yn llai na naw mis ar gyfer cig heb esgyrn sy'n rhoi o ganlyniad y nodweddion canlynol: Gweithgaredd Dwr (Aw) â gwerth heb fod yn fwy na 0.93 neu werth pH o ddim mwy na 6 Pob clefyd ac eithrio pla'r defaid a'r geifr a chlefyd Newcastle

(dd) Eplesu naturiol fel a geir yn (d) ond gyda'r asgwrn yn dal i fod yn y cig Clwy clasurol y moch a chlefyd pothellog y moch

(e) Triniaeth o hamiau ac ystlysau sy'n golygu eplesu ac aeddfedu naturiol am o leiaf 190 o ddiwrnodau ar gyfer hamiau a 140 o ddiwrnodau ar gyfer ystlysau Clwy Affricanaidd y moch

(f) Triniaeth wresogi sy'n sicrhau tymheredd craidd sy'n cyrraedd o leiaf 65°C am yr amser sy'n angenrheidiol i gyflawni gwerth pasteureiddio (pv) sy'n hafal i neu'n fwy na 40 Pla'r defaid a'r geifr
ATODLEN 3
Marc adnabod arbennig
Rheoliad 13
1 
Rhaid i gig dan gyfyngiadau o anifeiliaid gael ei farcio â marc adnabod—
(a) sy'n groes groeslin, a osodwyd ar ben y marc iechyd neu'r marc adnabod a osodir o dan erthygl 5 o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodedig ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid neu erthygl 4 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 a (EC) Rhif 854/2004, sy'n ddwy linell syth sy'n croesdorri ar ganol y stamp ac sy'n caniatáu i'r wybodaeth a geir ar y marc sydd yno barhau'n ddarllenadwy, neu
(b) stamp hirgrwn unigol, ei led yn 6.5 cm a'i uchder yn 4.5 cm, y mae'r wybodaeth ganlynol yn ddarllenadwy arno:
(i) ar y rhan uchaf, y llythrennau UK;
(ii) yn y canol, rhif cymeradwyo'r sefydliad;
(iii) ar y rhan isaf, y llythrennau EC;
(iv) dwy linell syth sy'n croesi ar ganol y stamp yn y fath fodd nad yw'r wybodaeth yn cael ei chuddio;
(v) gwybodaeth sy'n dynodi pwy oedd yr arolygydd milfeddygol a arolygodd y cig.
2 
Os defnyddir y stamp hirgrwn unigol y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b)—
(a) rhaid i'r llythrennau fod yn o leiaf 0.8 cm eu huchder;
(b) rhaid i'r ffigurau fod yn o leiaf 1 cm eu huchder; ac
(c) rhaid i'r defnydd o'r marc gael ei oruchwylio gan swyddog o'r Gwasanaeth Hylendid Cig.
3 
Rhaid i gig dan gyfyngiadau o ddofednod gael ei farcio â marc adnabod—
(a) sy'n farc gwladol y darperir ar ei gyfer yn erthygl 4 o Reoliad y Comisiwn 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer cyflawni Rheoliad (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004; neu
(b) y marc a ddisgrifir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2007/118/EC sy'n gosod rheolau manwl o ran marc adnabod amgen yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2002/99/EC.
4 
Ceir gosod y marc adnabod yn unol â'r dulliau ym mharagraff 9, 10, 11 a 13 o adran 1(C) o Atodiad II i Reoliad EC Rhif 853/2004 sy'n gosod rheolau hylendid penodedig ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid.
5 
Y “Gwasanaeth Hylendid Cig” (“Meat Hygiene Service”) yw'r corff sy'n dwyn yr enw hwnnw ac sy'n asiantaeth weithredol yr Asiantaeth Safonau Bwyd.