
2008 Rhif 1268 (Cy.128)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2008
Gwnaed 6 Mai 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 8 Mai 2008
Yn dod i rym 31 Mai 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1)(a), a (48)(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 31 Mai 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
2 

(1) Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 wedi eu diwygio i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru yn unol â pharagraffau (2) i (7).
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “Directive 2000/13” yn lle'r geiriau “Commission Directive 2005/26/EC” hyd at y diwedd, rhodder “Commission Directive 2007/68/EC amending Annex IIIa to Directive 2000/13/EC of the European Parliament and of the Council as regards certain food ingredients;”.
(3) Yn rheoliad 13(8)(c)—
(a)  hepgorer y geiriau “paragraphs 1 to 11 of”; a
(b) hepgorer y darn sy'n dechrau gyda'r geiriau “other than” ac yn gorffen gyda'r geiriau “that allergenic ingredient”.
(4) Yn rheoliad 34B(1)—
(a) yn lle'r geiriau “paragraphs (2) and (3)” rhodder “paragraff (2)”; a
(b) hepgorer y geiriau “paragraphs 1 to 11 of”.
(5) Yn rheoliad 34B(2)(b)—
(a)  hepgorer y geiriau “subject to paragraph (3) of this regulation,”; a
(b) hepgorer y geiriau “paragraphs 1 to 11 of”.
(6) Yn rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol), ar ôl paragraff (14) mewnosoder y canlynol—“
(15) In any proceedings for an offence under regulation 44(1)(a) it is a defence to prove that—
(a) the food concerned was sold before 31st May 2009 or marked or labelled before that date; and
(b) the matters constituting the alleged offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulation 2 of the Food Labelling (Declaration of Allergens) (Wales) Regulations 2008 had not been in operation when the food was sold.”.
(7) Yn lle cynnwys Atodlen AA1 (cynhwysion alergenig) rhodder cynnwys yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Dirymu
3 
Mae'r Rheoliadau neu ddarpariaethau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliad 34B(3) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 ac Atodlen 2A iddynt;
(b) Yr Atodlen i Reoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2004;
(c) Rheoliadau Labelu bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005;
(ch) Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005;
(d) Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2007.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
6 Mai 2008
YR ATODLEN
Cynnwys i'w fewnosod fel Atodlen A1 i Reoliadau Labelu Bwyd 1996
Rheoliad 2(7)
“1 
Cereals containing gluten (i.e. wheat, rye, barley, oats, spelt, kamut or their hybridised strains),
 except:
(a) wheat-based glucose syrups including dextrose;
(b) wheat-based maltodextrins ;
(c) glucose syrups based on barley;
(d) cereals used for making distillates or ethyl alcohol of agricultural origin for spirit drinks and other alcoholic beverages.
2 
Crustaceans.
3 
Eggs.
4 
Fish,
 except:
(a) fish gelatine used as a carrier for vitamin or carotenoid preparations;
(b) fish gelatine or isinglass used as a fining agent in beer and wine.
5 
Peanuts.
6 
Soybeans,
 except:
(a) fully refined soybean oil and fat(1);
(b) natural mixed tocopherols (E306), natural D-alpha tocopherol, natural D-alpha tocopherol acetate, natural D-alpha tocopherol succinate from soybean sources;
(c) vegetable oils derived from phytosterols and phytosteral esters from soybean sources;
(d) plant stanol ester produced from vegetable oil sterols from soybean sources.
7 
Milk (including lactose),
 except:
(a) whey used for making distillates or ethyl alcohol of agricultural origin for spirit drinks and other alcoholic beverages;
(b) lactitol.
8 
Nuts, i.e. almonds (Amygdalus communis L.), hazelnuts (Corylus avellana), walnuts (Juglans regia), cashews (Anacardium occidentale), pecan nuts (Carya illinoiesis (Wangenh.) K.Koch), Brazil nuts (Bertholletia excelsa), pistachio nuts (Pistacia vera), macadamia nuts and Queensland nuts (Macadamia terniflora),
 except:
(a) nuts used for making distillates or ethyl alcohol of agricultural origin for spirit drinks and other alcoholic beverages.
9 
Celery.
10 
Mustard.
11 
Sesame seeds.
12 
Sulphur dioxide and sulphites at concentrations of more than 10 mg/kg or 10 mg/litre expressed as SO2 .
13 
Lupin.
14 
Molluscs.