
2008 Rhif 1259 (Cy.126)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2008
Gwnaed 5 Mai 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 6 Mai 2008
Yn dod i rym 29 Mai 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) (Diwygio) 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 29 Mai 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007.
Diwygio Rheoliadau 2007
3 
Mae Rheoliadau 2007 wedi'u diwygio fel a ganlyn.
4 
Yn rheoliad 2 —
(a) ym mharagraff (4) yn lle “Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci”, rhodder “Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a'r tiriogaethau tramor”;
(b) ym mharagraff (4)(ch) o'r testun Cymraeg, yn lle'r geiriau “blentyn ei briod neu ei bartner sifil,”, rhodder y geiriau “briod neu bartner sifil ei blentyn,”;
(c) ym mharagraff (6)(ch) o'r testun Cymraeg, yn lle'r geiriau “blentyn ei briod neu ei bartner sifil,”, rhodder y geiriau “briod neu bartner sifil ei blentyn,”;
(ch) ar ôl paragraff 7, mewnosoder—“
(8) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig oherwydd ei fod wedi symud o'r Ynysoedd at ddibenion ymgymryd â chwrs i'w ystyried yn berson sy'n preswylio fel arfer yn yr Ynysoedd.”.
5 
Yn yr Atodlen —
(a) ym mharagraff 3(ch), yn lle “Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir”, rhodder “Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor”;
(b) yn lle paragraff 6, rhodder—“
6 

(1) Person—
(a) sydd—
(i) yn weithiwr mudol AEE neu'n berson hunangyflogedig AEE;
(ii) yn berson Swisaidd cyflogedig neu'n berson Swisaidd hunangyflogedig;
(iii) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);
(iv) yn weithiwr ffin yr AEE neu'n berson hunangyflogedig ffin yr AEE;
(v) yn berson Swisaidd cyflogedig y ffin neu'n berson Swisaidd hunangyflogedig y ffin; neu
(vi) yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);
(b) yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys pan fo'r person yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o'r is-baragraff hwnnw.”;
(c) ym mharagraff 7(b), yn lle “sydd wedi bod fel arfer yn preswylio yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir” rhodder “sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor”;
(ch) ym mharagraff 8(1)(ch), yn lle “Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir”, rhodder “Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor”;
(d) ym mharagraff 9(1)—
(i) ym mharagraff (a)(i), yn lle “blwyddyn academaidd gyntaf”, rhodder “un o flynyddoedd academaidd”;
(ii) yn lle paragraff (c), rhodder—“
(c) sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac”;
(iii) hepgorer paragraff (ch);
(iv) ym mharagraff (d), yn lle “mharagraffau (c) neu (d)”, rhodder “mharagraff (c) ”;
(dd) ym mharagraff 10(1)(ch), yn lle “Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir”, rhodder “Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor”;
(e) ym mharagraff 11(c), yn lle “Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir”, rhodder “Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor”;
(f) ym mharagraff 12(c), yn lle “Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci”, rhodder “Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir, Twrci a'r tiriogaethau tramor”.
Jane E Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
5 Mai 2008