
2008 Rhif 1213 (Cy.121)
PRIFFYRDD, CYMRU
Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008
Gwnaed 29 Ebrill 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 30 Ebrill 2008
Yn dod i rym 22 Mai 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy,yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008. Deuant i rym ar 22 Mai 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006
2 
Diwygir ymhellach Reoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) 2006, a ddiwygiwyd eisoes yn unol â rheoliad 3.
3 
Yn rheoliad 3, ym mharagraffau (1) ac (8), yn lle “£24.00” rhodder “£25.00”.
Dirymu Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2008
4 
Drwy hyn dirymir Rheoliadau Gwaith Stryd (Ffioedd Arolygu) (Cymru) (Diwygio) 2008.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
29 Ebrill 2008