
2008 Rhif 1063 (Cy.112)
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2008
Gwnaed 9 Ebrill 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Ebrill 2008
Yn dod i rym 6 Mai 2008
Mae Gweinidogion Cymru, y breiniwyd ynddynt bellach y pwerau a roddwyd gan adran 16(1) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau hynny.
Yn unol â'r adran honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy'n ymddangos i'r Gweinidogion fod a wnelont â'r Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Mai 2008.
Diwygiadau i Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 3, yng Ngrwp IV o Ran II ac yng Ngrwp IV o Ran III—
(a) yn y golofn gyntaf, o dan “Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces)” yn lle “chwarter” rhodder “thraean”; a
(b) yn yr ail golofn, yn lle'r ffigur gyferbyn â “Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces )” rhodder “5.0%”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Ebrill 2008