
2007 Rhif 947 (Cy.81)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud 20 Mawrth 2007
Yn dod i rym 29 Mawrth 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 157(1), 160(1), 168 a 210(7) o Ddeddf Addysg 2002 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007, a deuant i rym ar 29 Mawrth 2007.
Diwygio Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), mewnosoder y canlynol yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor —“
 ystyr “tystysgrif cofnod troseddol briodol”(“appropriate criminal record certificate”), mewn perthynas â pherson a gyflogir mewn ysgol, yw —
(i) pan fo'r person yn dal yn yr ysgol swydd a grybwyllir yn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002 tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir yn unol ag adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997; neu
(ii) pan na fo'r person yn dal swydd o'r fath, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997;ar yr amod, yn y ddau achos, pan fo'r person yn dal swydd a grybwyllir yn adran 113C(5) o Ddeddf yr Heddlu 1997, fod y dystysgrif hefyd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir yn adran 113C(1) o'r Ddeddf honno.”; ac“
 mae i “sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “looked after by a local authority” gan adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989”.
(3) Yn rheoliad 3(ch), ychwaneger y canlynol ar ôl y gair “perchennog” —“neu gan berson wedi'i awdurdodi gan y perchennog i roi'r dystysgrif ar ran y perchennog”.
(4) Ar ddiwedd paragraff 2(2)(b) o'r Atodlen, mewnosoder y canlynol —“ac (yn ddarostyngedig i is-baragraff (5) isod) ar gyfer pob aelod o'r gorfforaeth, y ffyrm neu'r corff, ei enw llawn, unrhyw enwau blaenorol y cafodd ei adnabod oddi wrthynt, ei gyfeiriad preswyl arferol a'i ddyddiad geni.”
(5) Ar ddiwedd paragraff 2 o'r Atodlen, mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn —“
(5) At ddibenion y paragraff hwn, pan fo'r perchennog yn gorfforaeth sydd yn gwmni cyfyngedig trwy gyfrannau (yn ystyr Deddf Cwmnïau 1985), nid yw person i gael ei drin fel aelod o'r gorfforaeth oni bai ei fod yn dal o leiaf 5% o gyfalaf cyfrannau'r cwmni.”
(6) Ar ôl paragraff 5 o'r Atodlen, mewnosoder y paragraff canlynol —“
5A 
Nifer y disgyblion yn yr ysgol sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol.”
(7) Yn lle paragraff 7(ch) o'r Atodlen, rhodder —““pan fo'r person yn berson y mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 drosto mewn ymateb i gais a wnaed yn briodol am dystysgrif o'r fath, cadarnhad fod tystysgrif cofnod troseddol briodol ar gael i'r perchennog mewn perthynas â'r person hwnnw.”
(8) Ar ddiwedd paragraff 10(c) o'r Atodlen, mewnosoder —“(ac eithrio nad oes unrhyw wybodaeth ynghylch cymwysterau yn ofynnol yn achos athro sydd wedi peidio â bod yn gyflogedig)”.
(9) Yn lle paragraff 10(ch) o'r Atodlen, rhodder —““yn achos person sydd wedi cychwyn ar ei gyflogaeth, pan fo'n berson y mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 drosto mewn ymateb i gais a wnaed yn briodol am dystysgrif o'r fath, cadarnhad i gydymffurfedd â pharagraff 4(bb) o'r Atodlen i Reoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003 (tystysgrif cofnod troseddol i fod ar gael cyn penodi) ddigwydd cyn penodi'r person.”
(10) Ar ôl paragraff 13 mewnosoder y paragraff canlynol —“
14 
Pan fo newid wedi digwydd yn aelodaeth unrhyw gorfforaeth, ffyrm Albanaidd neu gorff o bersonau a enwir fel perchennog yn y gofrestr, mewn perthynas ag unrhyw aelod newydd a gaiff ei drin fel aelod at ddibenion paragraff 2 o'r Atodlen hon, yr wybodaeth a bennir yn is-baragraff (2) o'r paragraff hwnnw.”
Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003
3 

(1) Diwygir Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2003 fel a ganlyn.
(2) Yn Rheoliad 2, yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder y canlynol —“
 ystyr “tystysgrif cofnod troseddol briodol” (“appropriate criminal record certificate”), mewn perthynas â pherson a gyflogir mewn ysgol, yw —
(i) pan fo'r person yn dal yn yr ysgol swydd a grybwyllir yn rheoliad 5A o Reoliadau Ddeddf yr Heddlu 1997 (Cofnodion Troseddol) 2002, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir yn unol ag adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997; neu
(ii) pan na fo'r person yn dal swydd o'r fath, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997;ar yr amod, yn y ddau achos, pan fo'r person yn dal swydd a grybwyllir yn adran 113C(5) o Ddeddf yr Heddlu 1997, fod y dystysgrif hefyd yn cynnwys yr wybodaeth a bennir yn adran 113C(1) o'r Ddeddf honno.”; ac“
 ystyr “yr unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yw—
(i) yr unigolyn sydd â rheolaeth gyflawn dros redeg yr ysgol o ddydd i ddydd; neu
(ii) pan fo'r rheolaeth honno wedi'i rhannu rhwng dau neu fwy o unigolion, yr un ohonynt sydd wedi'i enwebu gan y perchennog fel yr unigolyn cyfrifol.”
(3) Ym mharagraff 3(6) o'r Atodlen, ar ôl y gair “Cyntaf” mewnosoder “ysgrifenedig”.
(4) Yn lle is-baragraffau (a) a (b) ym mharagraff 4 o'r Atodlen, rhodder —“
(a) yn achos perchennog sy'n unigolyn, os yw'r perchennog wedi gwneud cais am dystysgrif cofnod troseddol briodol a bod y cais hwnnw wedi'i adlofnodi gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion Rhan V o Ddeddf yr Heddlu 1997;
(aa) yn achos perchennog sy'n gorfforaeth, ffyrm Albanaidd neu'n gorff o bersonau, bod yr unigolyn cyfrifol wedi gwneud cais am dystysgrif cofnod troseddol briodol a bod y cais hwnnw wedi'i adlofnodi gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion Rhan V o Ddeddf yr Heddlu 1997;
(b) yn achos perchennog sy'n gorfforaeth, ffyrm Albanaidd neu'n gorff o bersonau, os yw'r perchennog yn sicrhau fod yna dystysgrif cofnod troseddol briodol ar gael mewn perthynas â phob aelod o'r gorfforaeth, y ffyrm neu'r corff, os yw'r ddau amod a ganlyn yn gymwys:
(i) bod yr aelod yn cael ei drin fel aelod at ddibenion paragraff 2 o'r Atodlen i Reoliadau Ysgolion Annibynnol (Darparu Gwybodaeth) (Cymru) 2003 (aelodau sy'n dal llai na 5% o gyfalaf cyfrannau cwmni i gael eu diystyru); a
(ii) bod yr aelod yn unigolyn y mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 drosto mewn ymateb i gais a wneir yn briodol am dystysgrif o'r fath;
(bb) cyn penodi unrhyw aelod o staff i weithio yn yr ysgol, pan fo'r darpar aelod o staff yn unigolyn y mae'n rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ddyroddi tystysgrif cofnod troseddol o dan adran 113A o Ddeddf yr Heddlu 1997 drosto, fod y perchennog yn sicrhau —
(i) fod yr unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif cofnod troseddol briodol; a
(ii) fod yr unigolyn yn peri bod y dystysgrif ar gael i'r perchennog;”.
(5) Ar ddiwedd paragraff 4 o'r Atodlen, mewnosoder yr is-baragraff a ganlyn —“
(dd) mae unrhyw wladolyn tramor sy'n gweithio yn yr ysgol neu at ei dibenion yn ddarostyngedig i'r gwiriadau a osodir yng nghanllawiau'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru “Amddiffyn Plant: Atal Pobl Anaddas rhag Gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc yn y Gwasanaeth Addysg (Cylchlythyr 34/02)”.
(6) Ym mharagraff 6 o'r Atodlen —
(i) yn is-baragraff (3)(a), ar ôl “crynodeb o'r adroddiad”, mewnosoder “a baratowyd gan y corff hwnnw”; a
(ii) ar ddiwedd is-baragraph (5), mewnosoder “ac eithrio nad oes angen anfon adroddiad at riant sydd wedi cytuno fel arall â'r ysgol”.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Mawrth 2007