
2007 Rhif 856 (Cy.79) (C.34)
GALLUEDD MEDDYLIOL, CYMRU
Gorchymyn Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Cychwyn) (Cymru) 2007
Wedi'i wneud 13 Mawrth 2007
Yn dod i rym
At ddibenion erthygl 3 1 Gorffennaf 2007
At ddibenion erthygl 4 1 Hydref 2008
At bob diben arall 1 Hydref 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 68(2) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Cychwyn) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
Cychwyn
2 
Yn ddarostyngedig i erthyglau 3 a 4, daw adrannau 30 i 34 (ymchwil) o'r Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2007.
3 
Daw adrannau 30 i 34 o'r Ddeddf i rym ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth o ran ymchwil i gael eu gwneud i gorff priodol ac i gael eu penderfynu ganddo.
4 
Daw adrannau 30 i 34 o'r Ddedd i rym ar 1 Hydref 2008 o ran unrhyw ymchwil a gaiff ei wneud fel rhan o brosiect ymchwil—
(a) sydd yn dechrau cyn 1 Hydref 2007; a
(b) sydd yn cael ei gymeradwyo cyn 1 Hydref 2007 gan bwyllgor a sefydlir i gynghori ar foeseg ymchwil, neu ar faterion sy'n cynnwys moeseg ymchwil mewn perthynas â phobl nad yw'r galluedd ganddynt i gydsynio iddo.
5 
Daw adrannau 35 i 41 (gwasanaeth eiriolwr annibynnol galluedd meddyliol) o'r Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2007.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2007