
2007 Rhif 852 (Cy.77)
GALLUEDD MEDDYLIOL, CYMRU
Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud 13 Mawrth 2007
Yn dod i rym 1 Hydref 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 35(2) a (3), 36, 37(6) a (7), 38(8), 41, 64(1) a 65(1) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a chan adran 12 a 204 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
Enwi, cychwyn a rhychwantu
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Eiriolwyr Annibynnol o ran Galluedd Meddyliol) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Hydref 2007 ac maent yn gymwys i Gymru.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
 ystyr “darparydd gwasanaethau eirioli” (“provider of advocacy services”) yw corff neu berson, gan gynnwys corff gwirfoddol, sy'n cyflogi personau y gellir rhoi cyfarwyddyd iddynt weithredu fel EAGM ac sy'n peri eu bod ar gael;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005;
 ystyr “EAGM” (“IMCA”) yw eiriolwr annibynnol galluedd meddyliol.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at roi cyfarwyddyd i berson weithredu fel EAGM yn gyfeiriadau at gyfarwyddyd a roddir yn unol ag adrannau 37, 38 a 39 o'r Ddeddf neu'n unol â'r Rheoliadau hyn.
Ystyr Corff GIG
3 
At ddibenion adrannau 37 a 38 o'r Ddeddf, ac ar gyfer y Rheoliadau hyn ystyr “corff GIG” yw—
(a)  Bwrdd Iechyd Lleol;
(b)  Ymddiriedolaeth GIG sydd â'r cyfan neu'r rhan fwyaf o'i hysbytai, ei sefydliadau a'i chyfleusterau wedi'u lleoli yng Nghymru;
(c) Awdurdod Iechyd Arbennig sy'n cyflawni ei swyddogaethau yn bennaf neu'n unig mewn perthynas â Chymru.
Diffiniad o driniaeth feddygol sylweddol
4 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn diffinio triniaeth feddygol sylweddol at ddibenion adran 37 o'r Ddeddf.
(2) Triniaeth feddygol sylweddol yw triniaeth sy'n golygu darparu triniaeth neu ei thynnu'n ôl neu omedd triniaeth yn yr amgylchiadau a ganlyn—
(a) mewn achos pan argymhellir un driniaeth yn unig, mai gwahaniaeth main iawn sydd rhwng ei budd i berson (P) a'r gofid a'r peryglon sy'n debygol o ddod i P yn ei sgil,
(b) mewn achos pan fo dewis o driniaethau, fod y penderfyniad ar ba un i'w defnyddio yn troi ar wahaniaeth main iawn, neu
(c) bod canlyniadau yr hyn a argymhellir yn debygol o fod yn sylweddol i P.
Penodi eiriolwyr annibynnol o ran galluedd meddyliol
5 

(1) Yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau a gaiff eu rhoi gan y Cynulliad, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wneud y fath drefniadau ag y mae'n eu hystyried sy'n rhesymol er mwyn galluogi EAGMau i fod ar gael i weithredu ar ran personau sy'n preswylio fel arfer yn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd Iechyd Lleol drosti, sef y Bwrdd y mae'r gweithredoedd neu'r penderfyniadau a argymhellir o dan adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf neu o dan y Rheoliadau hyn yn berthnasol iddo.
(2) Wrth wneud trefniadau o dan baragraff (1) caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud trefniadau gyda darparydd gwasanaethau eirioli.
(3) Ni cheir cyfarwyddo unrhyw berson i weithredu fel EAGM onid yw'r person hwnnw wedi cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu onid yw yn gyflogedig gan ddarparydd gwasanaethau eirioli i weithredu fel EAGM.
(4) Cyn cymeradwyo unrhyw berson o dan baragraff (3), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol fod wedi ei fodloni bod y person yn bodloni'r gofynion penodi ym mharagraff (6).
(5) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol sicrhau ei bod yn ofynnol i unrhyw ddarparydd gwasanaethau eirioli y mae'n gwneud trefniadau ag ef o dan baragraff (2), yn unol â thelerau'r trefniadau hynny, sicrhau bod unrhyw berson a gyflogir gan y darparydd gwasanaethau hwnnw ac sydd ar gael i dderbyn cyfarwyddyd i weithredu fel EAGM yn bodloni'r gofynion penodi ym mharagraff (6).
(6) Y gofynion penodi ym mharagraff (4) a (5) yw—
(a) bod gan y person brofiad neu hyfforddiant priodol;
(b) ei fod yn meddu ar uniondeb a chymeriad da; ac
(c) y bydd yn gweithredu'n annibynnol ar unrhyw berson sy'n rhoi cyfarwyddyd iddo i weithredu fel EAGM ac ar unrhyw berson sy'n gyfrifol am unrhyw weithred neu benderfyniad a argymhellir o dan adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf neu o dan y Rheoliadau hyn.
(7) Wrth benderfynu a yw person yn bodloni'r gofyniad penodi ym mharagraff (6)(a) rhoddir ystyriaeth i safonau mewn canllawiau y caiff y Cynulliad eu dyroddi.
(8) Cyn gwneud penderfyniad at ddibenion paragraff (6)(b) mewn perthynas ag unrhyw berson rhaid bod wedi cael—
(a) tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddir yn unol ag adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997; neu
(b) os nad yw'r diben y mae'r dystysgrif yn ofynnol o'i herwydd yn un a ragnodir o dan is-adran (2) o'r adran honno, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddir yn unol ag adran 113A o'r Ddeddf honno, ynglyn â'r person hwnnw.
(9) Yn y rheoliad hwn mae person yn gyflogedig gan ddarparydd gwasanaethau eirioli os yw'r person hwnnw—
(a) yn gyflogedig o dan gontract i wasanaethu; neu
(b) wedi ei ymrwymo o dan gontract am wasanaethau.
Swyddogaethau eiriolwr annibynnol galluedd meddyliol
6 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo corff GIG neu awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd i berson weithredu fel EAGM o ran cynrychioli person (P).
(2) Rhaid i'r EAGM benderfynu yng nghyflawnder yr amgylchiadau sut orau i gynrychioli P a sut i roi'r gefnogaeth orau iddo a rhaid i'r EAGM weithredu'n unol â'r gofynion ym mharagraff (3).
(3) Rhaid i'r EAGM—
(a) gwirio bod y cyfarwyddyd a ddyroddwyd wedi cael ei ddyroddi gan gorff GIG neu gan awdurdod lleol;
(b) i'r graddau y mae'n ymarferol ac yn briodol gwneud hynny—
(i) cyfweld P yn breifat, a
(ii) archwilio'r cofnodion sy'n berthnasol i P y mae gan yr EAGM fynediad atynt o dan adran 35(6) o'r Ddeddf;
(c) i'r graddau y mae'n ymarferol ac yn briodol gwneud hynny, ymgynghori â—
(i) personau sy'n ymwneud â darparu gofal neu driniaeth i P mewn swyddogaeth broffesiynol neu am dâl, a
(ii)  personau eraill a eill fod mewn sefyllfa i wneud sylwadau ar ddymuniadau, teimladau, credoau neu werthoedd P; ac
(ch) cymryd pob cam ymarferol i gael unrhyw wybodaeth arall ynglyn â P, neu ynglyn â'r weithred neu'r penderfyniad a argymhellir mewn perthynas â P, ag sydd ym marn yr EAGM yn angenrheidiol.
(4) Rhaid i'r EAGM gloriannu'r holl wybodaeth a gafodd er mwyn—
(a) canfod i ba raddau y mae'r gefnogaeth a ddarperir i P yn galluogi P i gymryd rhan mewn gwneud unrhyw benderfyniad ynglyn â'r mater y cafodd yr EAGM gyfarwyddyd yn ei gylch;
(b) canfod sut y byddai P yn teimlo, beth fyddai dymuniadau P a pha gredoau a gwerthoedd a fyddai'n debygol o ddylanwadu ar P petai gan P alluedd mewn perthynas â'r weithred neu'r penderfyniad a argymhellir;
(c) canfod pa foddau arall o weithredu sydd ar gael mewn perthynas â P;
(ch) pan argymhellir triniaeth feddygol i P, canfod a fyddai barn feddygol bellach yn debygol o fod o fudd i P.
(5) Rhaid i'r EAGM baratoi adroddiad ar gyfer y corff GIG neu'r awdurdod lleol a roddodd gyfarwyddyd iddo.
(6) Caiff yr EAGM gynnwys yn yr adroddiad unrhyw gyflwyniadau y mae'n eu hystyried sy'n briodol mewn perthynas â P ac â'r gweithredoedd neu'r penderfyniadau sy'n cael eu hargymell mewn perthynas â P.
Herio penderfyniadau sy'n effeithio ar bersonau sydd â diffyg galluedd
7 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo EAGM wedi cael cyfarwyddyd i weithredu a phan fo penderfyniad (gan gynnwys penderfyniad parthed galluedd P) yn cael ei wneud mewn perthynas â pherson (P).
(2) Mae gan yr EAGM yr un hawliau i herio'r penderfyniad â phetai yn berson (ac eithrio EAGM)—
(a) sydd â'r hawl, yn unol ag adran 4(7)(b) o'r Ddeddf, i gael ei gynnwys mewn trafodaeth mewn perthynas â mater y mae'r EAGM yn awr wedi cael cyfarwyddyd yn ei gylch; neu
(b) y byddai fel arall yn briodol i gorff GIG neu awdurdod lleol ymgynghori ag ef.
Adolygu trefniadau parthed llety
8 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys—
(a) pan fo corff GIG neu awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau i ddarparu llety mewn ysbyty neu gartref gofal i berson (P) sydd â diffyg galluedd;
(b) pan fo EAGM wedi cael cyfarwyddyd mewn perthynas â'r trefniadau hynny yn unol ag adrannau 38 neu 39 o'r Ddeddf; ac
(c) pan fo llety wedi cael ei ddarparu ar gyfer P am gyfnod parhaus o 12 wythnos neu fwy.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), caiff unrhyw gorff GIG neu awdurdod lleol—
(a) sy'n bwriadu adolygu trefniadau llety P (p'un ai o dan gynllun gofal neu fel arall);
(b) sydd wedi'i fodloni nad oes yna unrhyw berson, ac eithrio person sy'n ymwneud â darparu gofal neu driniaeth i P mewn swyddogaeth broffesiynol neu am dâl, y byddai'n briodol ymgynghori ag ef wrth benderfynu beth fyddai orau er lles P; ac
(c) sydd wedi'i fodloni y byddai'n fuddiol i P gael ei gynrychioli a'i gefnogi yn y modd hwnnw,
roi cyfarwyddyd i berson weithredu fel EAGM mewn perthynas â P.
(3) Pan fo corff GIG neu awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn rhaid i'r corff neu'r awdurdod hwnnw, wrth wneud unrhyw benderfyniad sy'n codi o adolygiad o drefniadau ar gyfer llety P, ystyried unrhyw wybodaeth a roddwyd gan yr EAGM neu unrhyw gyflwyniadau a wnaed ganddo.
(4) Ni cheir rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn pan fo EAGM wedi cael cyfarwyddyd yn unol ag adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf neu â rheoliad 9.
(5) Ni cheir rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn yn yr amgylchiadau a ganlyn—
(a) pan fo P wedi enwebu person (ym mha fodd bynnag) fel person i gael ei gynnwys mewn trafodaethau ar faterion sy'n effeithio ar fudd P;
(b) pan fo yna berson wedi cael pwer atwrnai parhaol a luniwyd gan P;
(c) pan fo'r Llys Gwarchod wedi penodi dirprwy dros P; neu
(ch) pan fo yna berson wedi cael pwer atwrnai parhaus (o fewn ystyr Atodlen 4 o'r Ddeddf) a luniwyd gan P.
Achosion gwarchod oedolion
9 

(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo corff GIG neu awdurdod lleol yn bwriadu cymryd camau gwarchodol, neu yn bwriadu trefnu iddynt gael eu cymryd, mewn perthynas â pherson (P) sydd â diffyg galluedd i gytuno i un neu fwy o'r camau hynny.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo corff GIG neu awdurdod lleol yn cael hysbysiad o honiad neu yn cael tystiolaeth—
(a) bod P yn cael ei gam-drin neu ei esgeuluso neu ei fod wedi cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu
(b) bod P yn cam-drin neu wedi cam-drin person arall
caiff roi cyfarwyddyd i EAGM os yw wedi ei fodloni y byddai'n fuddiol i P gael ei gynrychioli a'i gefnogi.
(3) Pan fo corff GIG neu awdurdod lleol yn rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn rhaid i'r corff neu'r awdurdod hwnnw, wrth wneud unrhyw benderfyniad ynglyn â chamau gwarchodol sydd i'w cymryd mewn perthynas â P, ystyried unrhyw wybodaeth a roddwyd gan yr EAGM neu unrhyw gyflwyniadau a wnaed ganddo.
(4) Ni cheir rhoi cyfarwyddyd i EAGM o dan y rheoliad hwn pan fo EAGM wedi cael cyfarwyddyd yn unol ag adrannau 37, 38 neu 39 o'r Ddeddf neu â rheoliad 8.
(5) Mae “Camau Gwarchodol” (“Protective Measures”) yn cynnwys camau i leihau'r risg y bydd unrhyw gam-drin neu esgeulustod o P, neu gam-drin gan P, yn parhau a chamau a gymerir yn unol â chanllawiau a ddyroddir dan adran 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2007