
2007 Rhif 844 (Cy.76)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2007
Wedi'u gwneud 13 Mawrth 2007
Yn dod i rym 31 Mawrth 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972 o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2007. Deuant i rym ar 31 Mawrth 2007 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005 wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) ar ddiwedd y diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn” ychwaneger “, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1468/2006 (OJ Rhif L274, 5.10.2006, t. 6)”;
(b) hepgorer y diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn 1756/93”;
(c) yn y diffiniad o “deddfwriaeth y Gymuned”, yn lle “, Rheoliad y Comisiwn, a Rheoliad y Comisiwn 1756/93” rhodder “ a Rheoliad y Comisiwn”;
(ch) ar ddiwedd y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” ychwaneger “, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1406/2006 (OJ Rhif L265, 26.9.2006, t. 8)”.
(3) Yn rheoliad 7(a), yn lle is-baragraffau (i) i (iii) rhodder—“
(i) sy'n ddeiliad y cwota a nodir yn y cofnod hwnnw, neu
(ii) sy'n rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol ddatganiad yn ysgrifenedig fod ganddo fuddiant yn naliad deiliad y cwota a nodir yn y cofnod hwnnw; neu”.
(4) Yn rheoliad 9(3), yn lle'r geiriau ar ôl “Cynulliad Cenedlaethol” hyd at ddiwedd y paragraff rhodder yn eu lle “heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth yn y flwyddyn gwota pryd y trosglwyddir.”.
(5) Yn rheoliad 31(5), yn lle “1 Medi” rhodder “30 Medi”.
(6) Yn rheoliad 36 —
(a) ym mharagraff (1), yn lle “(2) a (3)” rhodder “(2A) a (3)”;
(b) hepgorer paragraff (2);
(c) ym mharagraff (5) yn lle “paragraffau (2) i (4)” rhodder “paragraffau (2A), (3), (4) a (6A)”;
(ch) yn lle paragraff (6) rhodder—“
(6) Yn ddarostyngedig i Erthygl 8(5) o Reoliad y Comisiwn, os bydd prynwr yn methu â chyflwyno crynodeb y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn, cyn diwedd y cyfnod a bennwyd yn Erthygl 8(4), mae o dan rwymedigaeth i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol gosb sy'n cyfateb i'r ardoll ddamcaniaethol a fyddai'n ddyledus ar 0.01% o'r llaeth yn ôl cyfaint a gwmpesir gan y datganiad hwnnw ar gyfer pob diwrnod o oedi cyn i'r cyflwyniad gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol.”;
(d) ar ôl paragraff 6 mewnosoder—“
(6A) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (7), pan fo prynwr yn methu â darparu neu gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol—
(a) cais neu ddatganiad ynghylch addasu cwota prynwr yn unol â rheoliad 23(2) i (4);
(b) gwybodaeth yn unol â rheoliad 33(2) i (4); neu
(c) cadarnhad neu ddiwygiadau sy'n ymwneud â fersiwn ddiwygiedig o grynodeb yn unol â rheoliad 35(2),
mae o dan rwymedigaeth i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol gosb sy'n cyfateb i'r ardoll ddamcaniaethol a fyddai'n ddyledus ar 0.01% o'r llaeth yn ôl cyfaint a gwmpesir gan y cais hwnnw, y datganiad hwnnw neu fersiwn ddiwygiedig ohono, neu'r wybodaeth honno, ar gyfer pob diwrnod o oedi cyn i'r cyflwyniad gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol.”.
(7) Ym mharagraff 7, yn lle “(6)” rhodder “(6A)”.
(8) Yn rheoliad 38, hepgorer paragraff (2).
(9) Yn rheoliad 39(2)(a)(ii), yn lle “yn rhinwedd rheoliad 38(2)” rhodder “o dan erthygl 11(4) o Reoliad y Comisiwn”.
(10) Ym mharagraff 2(1) o Atodlen 2, ar ddechrau is-baragraff (f) ac (ff) mewnosoder “os yw'n dal 4,855 neu ragor o litrau o gwota gwerthiannau uniongyrchol,”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2007