
2007 Rhif 837 (Cy.72)
GALLUEDD MEDDYLIOL, CYMRU
Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Colli Galluedd yn ystod Prosiect Ymchwil) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud 13 Mawrth 2007
Yn dod i rym
At y diben a grybwyllir yn 
rheoliad 1(1)(a) 1 Gorffennaf 2007
At bob diben arall 1 Hydref 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 30(6), 34(1), (2) a (3), 64(1) a 65(1) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Colli Galluedd yn ystod Prosiect Ymchwil) (Cymru) 2007 a deuant i rym —
(a) ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth at ddibenion Atodlen 1 i gael eu gwneud i gorff priodol ac i gael eu penderfynu ganddo,
(b) ar 1 Hydref 2007 at bob diben arall.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005;
 mae i “corff priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate body” gan adran 30(4) o'r Ddeddf a chan Reoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007.
 mae i “P” yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 2;
 mae i “R” yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 3.
Cymhwyso
2 
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo'r canlynol yn wir—
(a) bod person (“P”) wedi cydsynio cyn 31 Mawrth 2008 i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil (“y prosiect”) a ddechreuodd cyn 1 Hydref 2007 ond
(b) cyn i'r prosiect ddod i ben, bod P yn colli galluedd i gydsynio i gymryd rhan ynddo, ac
(c) y byddai ymchwil at ddibenion y prosiect o ran P, heblaw am y Rheoliadau hyn, yn anghyfreithlon yn rhinwedd adran 30 o'r Ddeddf.
Ymchwil y caniateir ei gyflawni er bod cyfranogwr yn colli galluedd
3 
Er i P golli galluedd, caniateir i ymchwil at ddibenion y prosiect gael ei gyflawni gan ddefnyddio gwybodaeth neu ddeunydd sy'n ymwneud â P —
(a) os yw'r prosiect yn bodloni'r gofynion a osodir yn Atodlen 1;
(b) os cafwyd yr holl wybodaeth neu'r deunydd sy'n ymwneud â P a ddefnyddir yn yr ymchwil cyn i P golli galluedd;
(c) os yw'r wybodaeth honno neu'r deunydd hwnnw naill ai—
(i) yn ddata o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1998, neu
(ii) yn ddeunydd sy'n gelloedd dynol neu'n DNA dynol a/neu yn eu cynnwys; ac
(ch) os yw'r person sy'n cynnal y prosiect (“R”) yn cymryd y camau hynny sy'n ymwneud â P a osodir yn Atodlen 2.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2007
ATODLEN 1
Gofynion y mae'n rhaid i'r prosiect eu bodloni
Rheoliad 3
1 
Mae protocol a gymeradwywyd gan gorff priodol ac sy'n cael effaith mewn cysylltiad â'r prosiect yn darparu bod ymchwil yn cael ei gyflawni sy'n ymwneud â pherson sydd wedi cydsynio i gymryd rhan yn y prosiect ond sy'n colli galluedd i gydsynio i barhau i gymryd rhan ynddo.
2 
Rhaid bod y corff priodol wedi'i fodloni bod trefniadau rhesymol ar waith i sicrhau y bydd gofynion Atodlen 2 yn cael eu bodloni.
ATODLEN 2
Camau y mae'n rhaid i'r person sy'n cynnal y prosiect eu cymryd
Rheoliad 3
1 
Rhaid i R gymryd camau rhesymol i ddarganfod pwy yw person—
(a) heblaw rhywun sydd yn ei swydd broffesiynol neu er mwyn tâl, yn gofalu am P neu mae ganddo ddiddordeb yn lles P, a
(b) sy'n barod i R ymgynghori ag ef o dan yr Atodlen hon.
2 
Os nad yw R yn gallu darganfod pwy yw person o'r fath rhaid i R, yn unol â chanllawiau a ddyroddir gan yr awdurdod priodol, enwebu person—
(a) sy'n barod i R ymgynghori ag ef o dan yr Atodlen hon, ond
(b) nad oes ganddo unrhyw gysylltiad â'r prosiect.
3 
Rhaid i R roi i'r person a enwir o dan baragraff 1, neu a enwebir o dan baragraff 2, wybodaeth am y prosiect a rhaid iddo ofyn i'r person hwnnw—
(a) am gyngor a ddylid cyflawni ymchwil o'r fath a arfaethir mewn perthynas â P, a
(b) beth, ym marn y person hwnnw, fyddai dymuniadau a theimladau P yn debygol o fod wrth i ymchwil o'r fath gael ei gyflawni pe bai'r galluedd gan P ynglyn â'r mater.
4 
Pe bai'r person yr ymgynghorir ag ef ar unrhyw adeg yn cynghori R y byddai dymuniadau a theimladau P ym marn y person hwnnw, yn debygol o arwain P i dynnu'n ôl oddi wrth y prosiect pe bai'r galluedd ganddo ynglyn â'r mater, rhaid i R sicrhau bod P yn cael ei dynnu oddi ar y prosiect.
5 
Nid yw'r ffaith bod person yn rhoddai i atwrneiaeth arhosol a roddwyd gan P, neu os yw'n ddirprwy i P, yn atal y person hwnnw rhag bod yn berson yr ymgynghorir ag ef o dan baragraffau 1 i 4.
6 
Rhaid i R sicrhau na wneir dim byd i P yn ystod yr ymchwil a fyddai'n groes i—
(a) penderfyniad ymlaen llaw gan P sydd yn effeithiol, neu
(b) unrhyw ffurf arall ar ddatganiad a wnaed gan P ac na chafodd ei dynnu'n ôl wedyn,y mae R yn ymwybodol ohonynt.
7 
Rhaid tybio bod buddiannau P yn gorbwyso rhai gwyddoniaeth a chymdeithas.
8 
Os bydd P yn dangos (mewn unrhyw fodd) ei fod yn dymuno bod yr ymchwil ynglyn ag ef yn dod i ben, rhaid dod ag ef i ben yn ddi-oed.
9 
Rhaid dod â'r ymchwil i ben yn ddi-oed os bydd gan R ar unrhyw adeg sail resymol dros gredu nad yw un neu fwy o'r gofynion a osodir yn Atodlen 1 bellach yn cael ei fodloni neu eu bodloni ac nad oes bellach unrhyw drefniadau rhesymol ar waith i sicrhau bod gofynion yr Atodlen hon yn cael eu bodloni ynglyn â P.
10 
Rhaid i R gynnal yr ymchwil yn unol â'r ddarpariaeth a wnaed yn y protocol y cyfeirir ato ym mharagraff 1 o Atodlen 1 ar gyfer ymchwil i gael ei gyflawni ynglŷn â pherson sydd wedi cydsynio i gymryd rhan yn y prosiect ond sy'n colli galluedd i gydsynio i gymryd rhan ynddo.