
2007 Rhif 833 (Cy.71)
GALLUEDD MEDDYLIOL, CYMRU
Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud 13 Mawrth 2007
Yn dod i rym
At y diben a grybwyllir yn 
Rheoliad 1(1)(a) 1 Gorffennaf 2007
At bob diben arall 1 Hydref 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 30(4), 30(6) a 65(1) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007 a deuant i rym—
(a) ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth o ran ymchwil i gael eu gwneud i gorff priodol ac i gael eu penderfynu ganddo,
(b) ar 1 Hydref 2007 at bob diben arall.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Cyrff Priodol
2 
At ddibenion adrannau 30, 31 a 32 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, y corff priodol o ran prosiect ymchwil yw pwyllgor—
(a) a sefydlwyd i gynghori ar foeseg ymchwil ymwthiol neu ar faterion sy'n cynnwys moeseg ymchwil ymwthiol mewn perthynas â phobl nad yw'r galluedd ganddynt i gydsynio iddo; a
(b) a gydnabyddir at y dibenion hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2007