
2007 Rhif 812 (Cy.69)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2007
Wedi'u gwneud 13 Mawrth 2007]
Yn dod i rym 14 Mawrth 2007
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 1(5) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2007 ac maent yn dod i rym ar 14 Mawrth 2007.
Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999
2 

(1) Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999 wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2,
(a) ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniadau o “junior pupil” a “senior pupil” ac mewnosoder y diffiniadau newydd canlynol yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor —“
 “assistant head teacher” means a qualified teacher (within the meaning of section 132 of the Education Act 2002) with leadership responsibilities across the whole school who is appointed to the post of assistant head teacher;”;“
 “pupils of primary school age” means children who are under the age of 12;”;“
 “pupils of secondary school age” means persons who are aged 12 or over;”; a
(b) ym mharagraff (2), o flaen “and 9”, mewnosoder “, 5(1)”.
(3) Ailrifer rheoliad 3 yn baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw ac mewnosoder ar ôl y paragraff (1) ailrifedig —“
(2) All members are to act as individual members and not as representatives of the organisation, if any, to which they belong, nor, if relevant, as representatives of the organisation which nominated them for the purposes of regulation 7 nor as representatives of the Assembly.”
(4) Yn rheoliad 4,
(a) ym mharagraff (a) yn lle “junior pupils” rhodder “pupils of primary school age”;
(b) ym mharagraff (b) yn lle “senior pupils” rhodder “pupils of secondary school age”; ac
(c) yn lle paragraff (c) rhodder —“
(c) four head teachers, deputy head teachers or assistant head teachers (in any combination), one of whom must be a head teacher, deputy head teacher or assistant head teacher at a secondary school (within the meaning of section 5(2) of the 1996 Act).”.
(5) Yn rheoliad 5,
(a) ym mharagraff (1) mewnosoder ar ôl y geiriau “as a teacher” (yn is-baragraffau (a) a (b)) y geiriau “in a school”; a
(b) ar ôl paragraff (1) mewnosoder y canlynol —“
(1A) In paragraph (1) “school” means a school maintained by a local education authority or a special school not so maintained.” .
(6) Yn rheoliad 6(2) a (3), hepgorer y geiriau “with the approval of the Secretary of State”.
(7) Yn rheoliad 7, yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) Where an organisation set out in the Schedule changes its name, but its objects are not materially changed, the reference to the organisation in the Schedule is to be read as a reference to the organisation under its new name.”.
(8) Yn yr Atodlen —
(a) yn Rhan Un, yn lle “Secondary Heads Association in Wales” rhodder “Association of School and College Leaders” ac yn lle “NATFHE — The University and College Lecturers' Union” rhodder “University and College Union”; a
(b) yn Rhan Dau, yn lle “Fforwm Ltd” rhodder “Fforwm” a hepgorer “Further Education National Training Organisation”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2007