
2007 Rhif 701 (Cy.58)
CŵN, CYMRURHEOLI CŵN
Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵ n (Heb Fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007
Wedi'i wneud 6 Mawrth 2007
Yn dod i rym 15 Mawrth 2007
O ran Cymru, y person priodol fel y'i diffinnir yn adran 66(b) o Ddeddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005, at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 57(3) a (4) o'r Ddeddf honno, yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae'n gwneud y Gorchymyn a ganlyn wrth arfer y pwerau hynny:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵn (Heb fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Mawrth 2007.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005;
 ystyr “ffordd” (“road”) yw unrhyw ddarn o briffordd y caiff y cyhoedd fynd arno, ac mae'n cynnwys pontydd y mae ffordd yn mynd drostynt;
 ystyr “tir” (“land”) yw unrhyw dir sydd yn agored i'r awyr ac y mae gan y cyhoedd hawl neu ganiatâd i fynd arno (gyda thâl neu heb dâl), ac mae unrhyw dir â tho drosto i'w drin fel tir “agored i'r awyr” os yw ar agor ar un ochr o leiaf.
Tir nad yw Pennod 1 o Ran 6 o'r Ddeddf yn gymwys iddo
3 
Dynodir unrhyw dir sy'n dod o fewn disgrifiad yng ngholofn gyntaf y tabl yn yr Atodlen yn dir nad yw Pennod 1 (rheolaethau ar gŵn) o Ran 6 (cŵn) o'r Ddeddf yn gymwys iddo, at y dibenion a bennir mewn perthynas â'r disgrifiad penodol yn ail golofn y tabl hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Mawrth 2007
ATODLEN
TIR NAD YW PENNOD 1 O RAN 6 O'R DDEDDF YN GYMWYS IDDO
Erthygl 3


Disgrifiad o'r Tir Dibenion nad yw Pennod 1 o Ran 6 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt
Tir a osodir at ddefnydd y Comisiynwyr Coedwigaeth o dan adran 39(1) o Ddeddf Coedwigaeth 1967 At ddibenion gwneud gorchymyn rheoli o cŵn dan adran 55(1) o'r Ddeddf
Tir sy'n ffordd, neu'n rhan o ffordd At ddibenion gwneud gorchymyn rheoli cŵn o dan adran 55(1) o'r Ddeddf sy'n darparu ar gyfer tramgwydd mewn perthynas â'r mater a ddisgrifir yn adran 55(3)(c) (gwahardd cwn dir)