
2007 Rhif 583 (Cy.55)
TIROEDD COMIN, CYMRU
Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2007
Wedi'i wneud 27 Chwefror 2007
Yn dod i rym 1 Mawrth 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(2) a (7), 59(1) a 61(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 a pharagraff 2(1)(a) o Atodlen 1 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tiroedd Comin (Hollti Hawliau) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Mawrth 2007, ond mae'n effeithiol o 28 Mehefin 2005 ymlaen.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Hollti dros dro hawl comin
2 

(1) Caniateir i hawl comin i bori anifeiliaid y mae adran 9(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 yn gymwys iddi gael ei hollti dros dro oddi wrth y tir y mae'r hawl honno'n gysylltiedig ag ef drwy brydlesu neu drwyddedu—
(a) yr hawl comin ar ei phen ei hun, ar yr amod na fydd cyfnod y brydles neu'r drwydded yn hwy na thair blynedd; neu
(b) y tir, neu ran o'r tir, y mae'r hawl comin yn gysylltiedig ag ef, heb yr hawl comin.
(2) Pan fo hawl comin wedi'i hollti dros dro oddi wrth unrhyw dir yn unol â pharagraff (1)(b), ni fydd unrhyw effaith i unrhyw warediad o'r hawl comin a gedwir lle bo'r gwarediad yn cymryd lle adeg rhoi neu ar ôl rhoi'r brydles neu'r drwydded ar y tir, a chyn i'r brydles neu'r drwydded gael ei therfynu oni fydd yn cael ei gwaredu—
(a) i grantî'r brydles neu'r drwydded ar y tir; ac
(b) am gyfnod sy'n dod i ben ddim mwy na thair blynedd ar ôl i'r brydles neu'r drwydded honno ddod i ben.
(3) Mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon at hawl comin, mewn perthynas â hawl comin i bori mwy nag un anifail, yn cynnwys hawl i bori cyfran o nifer yr anifeiliaid y caniateir eu pori yn rhinwedd yr hawl comin honno.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Chwefror 2007