
2007 Rhif 581 (Cy. 53)
Y DRETH GYNGOR, CYMRU
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyru Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud 27 Chwefror 2007
Yn dod i rym 1 Ebrill 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 116(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraff 9 o Atodlen 1 iddi ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru:
Enwi, cychwyn, a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyru Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Taliadau wythnosol i weithwyr gofal
2 
Ym mharagraff 1(c) o'r Atodlen i Reoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyru Disgownt) 1992 yn lle “£36” rhodder “£44”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Chwefror 2007