
2007 Rhif 580 (Cy.52)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2007
Wedi'i wneud 27 Chwefror 2007
Yn dod i rym 1 Ebrill 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraffau 4 a 5 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac a freinir bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2007, a daw i rym ar 1 Ebrill 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Gorchymyn 1992” (“the 1992 Order”) yw Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992.
Diwygio
2 
Diwygir Gorchymyn 1992 yn unol â'r canlynol.
Atodlen 1
3 

(1) Yn Rhan I (Prentisiaid) o Atodlen 1 (Diffiniad o fyfyrwyr, etc.) i Orchymyn 1992, ym mharagraff 1 diwygier y canlynol—
(a) Yn is-baragraff (1)(b), yn lle “National Council for Vocational Qualifications” rhodder “National Assembly for Wales or the Qualifications and Curriculum Authority”;
(b) Dileer is-baragraff (1)(c)(i); ac
(c) Yn is-baragraff (1)(c)(ii), yn lle “no more than £160 per week” rhodder “employed at a salary or in receipt of an allowance or both, which are, in total no more than £195 per week”.
(2) Yn Rhan II (Myfyrwyr) o Atodlen 1 i Orchymyn 1992 ym mharagraff 2(a), yn lle “Central Bureau for Educational Visits and Exchanges” rhodder “British Council”.
Atodlen 2
4 
Yn Rhan I (Sefydliadau ar gyfer myfyrwyr) o Atodlen 2 (Sefydliadau addysgol rhagnodedig) i Orchymyn 1992—
(1) Ym mharagraff 1, yn lle is-baragraff (d) rhodder “institutions within the higher education sector, as defined in section 91(5) of the Further and Higher Education Act 1992”.
(2) Ym mharagraff 2, o dan y diffiniad o “further education”, yn lle “the Education Act 1944” rhodder “section 2 of the Education Act 1996”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Chwefror 2007