
2007 Rhif 579 (Cy.51)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2007
Wedi'u gwneud 27 Chwefror 2007
Yn dod i rym 10 Ebrill 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo ef.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae wedi rhoi ystyriaeth i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau canlynol yn cael eu llunio.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2007, sy'n gymwys o ran Cymru ac sy'n dod i rym ar 10 Ebrill 2007.
Diwygio Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru yn unol â pharagraff (2).
(1) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli), yn lle'r diffiniad o “Directive 95/45/EC” rhodder y diffiniad canlynol—“
 “Directive 95/45/EC” means Commission Directive 95/45/EC laying down specific criteria of purity concerning colours for use in foodstuffs as amended by Directive 1999/75/EC, Directive 2001/50/EC, Directive 2004/47/EC and Directive 2006/33/EC;”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Chwefror 2007