
2007 Rhif 578 (Cy.50)
TAI, CYMRU
Gorchymyn Cymeradwyo Cod Ymarfer (Tai Ymddeol Preifat) (Cymru) 2007
Wedi'i wneud 27 Chwefror 2007
Yn dod i rym 2 Mawrth 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 87 a 100 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chan ei fod wedi'i fodloni bod trefniadau priodol wedi'u gwneud ar gyfer cyhoeddi'r cod a gymeradwywyd gan y Gorchymyn hwn, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn, a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Cod Ymarfer (Tai Ymddeol Preifat) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 2 Mawrth 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran rheoli pob eiddo preswyl yng Nghymru.
Cymeradwyo cod ymarfer
2 
Gan eithrio Atodiadau 4 i 6 caiff , The Code of Practice for Private Retirement Housing (Wales) (ISBN 095266 9137), a gafodd ei gyflwyno ar gyfer cymeradwyaeth ar 22 Rhagfyr 2006 gan Gymdeithas Rheolwyr Tai Ymddeol ac sydd i'w gyhoeddi gan Chain and Pyle, Unit 3, King James Court, King James Street, Llundain SE1 0DH, ei gymeradwyo.
Dirymu gorchmynion a thynnu cymeradwyaethau yn ôl
3 
Dirymir Gorchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) (Rhif 2) 1995 a Gorchmyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) 1998; a thynnir yn ôl y cymeradwyaethau a roddwyd gan y Gorchmynion hynny.
Darpariaeth drosiannol
4 
Nid yw erthyglau 2 a 3 yn gymwys at ddibenion adran 87(7)(a) a (b) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (defnyddio cod mewn rheithdrefnau) o ran gweithred neu anweithred sy'n digwydd cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
27 Chwefror 2007