
2007 Rhif 395 (Cy.41)
CYFLOGAETH AMAETHYDDOL, CYMRUCYFLOGAU AMAETHYDDOL
Gorchymyn y Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2007
Wedi'i wneud 14 Chwefror 2007
Yn dod i rym 1 Mawrth 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(1) o Ddeddf Cyflogau Amaethyddol 1948, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2007, daw i rym ar 1 Mawrth 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Diwygio Gorchymyn Pwyllgorau Cyflogau Amaethyddol (Ardaloedd) 1974
2 
Mae Gorchymyn Pwyllgorau Cyflogau Amaethyddol (Ardaloedd) 1974 wedi'i ddiwygio fel a ganlyn:
(a) yn Erthygl 3(1) yn lle'r gair “Wales” rhodder y geiriau “an agricultural wages committee for the combination of all the counties in Wales”;
(b) yn Rhan I o'r Atodlen, dileer y geiriau “Counties in Wales Clwyd Dyfed Gwent Gwynedd Powys”; ac
(c) yn Rhan II o'r Atodlen, dileer y geiriau “Counties in Wales Mid Glamorgan, South Glamorgan and West Glamorgan”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2007