
2007 Rhif 374 (Cy.34)
CYFRAITH GYFANSODDIADOL
DATGANOLI, CYMRU
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Dyddiad Cyfarfod Cyntaf y Cynulliad sydd wedi ei Gyfansoddi yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 2006) 2007
Wedi'i wneud 13 Chwefror 2007
Yn dod i rym 14 Chwefror 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵ er a roddwyd iddo gan baragraff 3 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Dyddiad Cyfarfod Cyntaf y Cynulliad sydd wedi ei Gyfansoddi yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 2006) 2007 a daw i rym ar 14 Chwefror 2007.
Dyddiad Cyfarfod Cyntaf y Cynulliad sydd wedi ei Gyfansoddi yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 2006
2 
Dyddiad y cyfarfod cyntaf o'r Cynulliad sydd wedi ei gyfansoddi yn ôl Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ar ôl etholiad 2007 fydd 9 Mai 2007.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Chwefror 2007