
2007 Rhif 3565 (Cy.315) (C.155)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007
Gwnaed 17 Rhagfyr 2007
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 32(3) o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enw
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007.
Darpariaeth yn dod i rym
2 
Daw adran 18(5) o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 i rym ar 23 Rhagfyr 2007.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
17 Rhagfyr 2007