
2007 Rhif 3564 (Cy.314)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2007
Gwnaed 17 Rhagfyr 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Rhagfyr 2007
Yn dod i rym 14 Ionawr 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(3), 408, 537, 537A(1) a (2) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 ac a freiniwyd bellach ynddynt ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 14 Ionawr 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion) (Cymru) 2004 yn unol â pharagraffau (2) i (6) isod.
(2) Yn rheoliad 2(3) dileer is-baragraff (b).
(3) Yn lle rheoliad 7 a'i bennawd rhodder y canlynol —“
Darparu canlyniadau asesiadau cyfnod allweddol i Weinidogion Cymru
Ar neu cyn y dyddiad a bennir yn y canllawiau ar yr Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd, rhaid i'r awdurdod ddarparu bob blwyddyn i Weinidogion Cymru yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r asesiadau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 1 mewn perthynas â'r holl ysgolion y mae'n eu cynnal ac y mae ganddynt ddisgyblion cofrestredig yn y cyfnod allweddol cyntaf sy'n gymwys i gael asesiadau statudol ym mlwyddyn adrodd yr ysgol.”.
(4) Yn lle paragraff 2 o Atodlen 1, rhodder y paragraff canlynol —“
 O ran pob disgybl o'r fath, canlyniadau ei asesiadau statudol ac, os nad yw rhai o'r canlyniadau hynny neu'r cyfan ohonynt ar gael, a oedd y disgybl wedi'i esemptio o'r asesiadau o dan adrannau 113 neu 114 o Ddeddf 2002 neu a yw'r ffaith nad yw canlyniadau ei asesiadau statudol ar gael oherwydd rhesymau gwahanol i'w esemptiad o dan adrannau 113 neu 114 o Ddeddf 2002.”.
(5) Ym mharagraff 1 yn Rhan 1 o Atodlen 3 dileer is-baragraff (d).
(6) Ym mharagraff 2 yn Rhan 2 o Atodlen 3 dileer is-baragraff (d).
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
17 Rhagfyr 2007