
2007 Rhif 3563 (Cy.313)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2007
Gwnaed 17 Rhagfyr 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 20 Rhagfyr 2007
Yn dod i rym 14 Ionawr 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 408, 563 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996 ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy ac ar ôl ymgynghori â'r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 14 Ionawr 2008.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygiadau i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004
2 

(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion) (Cymru) 2004 yn unol â pharagraffau (2) i (11) isod.
(2) Diwygir y diffiniad o “cymwysterau allanol a gymeradwywyd” yn rheoliad 2(1) fel a ganlyn—
(aa) yn lle'r geiriau “adran 96(5)” rhodder y geiriau “adrannau 96(5) a 97(5)”; a
(bb) yn lle'r geiriau “adran 96” rhodder y geiriau “adrannau 96 a 97”;
(3) Yn rheoliad 2(1) mewnosoder y canlynol yn y man priodol —“
 mae i “blwyddyn ysgol” yr ystyr a roddir i “school year” gan adran 579(1) o Ddeddf 1996;”; ac
 ystyr “canllawiau Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd” (“Statutory Assessment and Reporting Arrangements guidance”) yw'r canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru bob blwyddyn ysgol ar weinyddu asesiadau statudol;”;“
 ystyr “y Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig” (“the National Database of Accredited Qualifications”) yw'r gronfa ddata a gynhelir ac a gyhoeddir ar y cyd gan Weinidogion Cymru, yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm a'r Cyngor dros Gwricwlwm, Arholiadau ac Asesu yng Ngogledd Iwerddon;”.
(4) Yn rheoliad 6(2) dileer paragraff (b).
(5) Yn rheoliad 6(3) ar ôl y geiriau “i bennaeth yr ysgol newydd” mewnosoder dileer “cyn” a mewnosoder “cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad pan ddaeth pennaeth yr hen ysgol i wybod gyntaf fod y disgybl wedi cofrestru yn yr ysgol newydd a beth bynnag dim hwyrach na chyn”
(6) Ym mharagraff 1(g) o Atodlen 1 dileer y geiriau “ac, os felly, gyda phwy”.
(7) Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 dileer is-baragraff (i).
(8) Yn lle paragraff 4 yn Rhan 1 o Atodlen 2 rhodder—“
4 

(1) Enw unrhyw bwnc y rhoddwyd enw'r disgybl ar ei gyfer o ran cymhwyster allanol a'r radd (os oes un) a gafwyd.
(2) Cyfartaledd y pwyntiau a sgoriodd y disgybl mewn arholiadau pwnc o'r fath y rhoddwyd enw'r disgybl ar eu cyfer.
(3) At ddibenion y paragraff hwn rhaid penderfynu unrhyw gwestiwn ynghylch dyraniad y pwyntiau i bob cymhwyster allanol a gymeradwywyd yn unol â'r Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig.”.
(9) Yn lle paragraff 6 yn Rhan 3 o Atodlen 2 a'i bennawd rhodder—“
Disgyblion y rhoddwyd eu henwau ar gyfer cymhwyster allanol a gymeradwywyd
6 

(1) Enw unrhyw bwnc y rhoddwyd enw'r disgybl ar ei gyfer o ran cymhwyster allanol a gymeradwywyd a'r radd (os oes un) a gafwyd.
(2) Cyfartaledd y pwyntiau a sgoriodd y disgybl mewn arholiadau pwnc o'r fath y rhoddwyd enw'r disgybl ar eu cyfer.
(3) At ddibenion y paragraff hwn rhaid penderfynu unrhyw gwestiwn ynghylch dyraniad y pwyntiau i bob cymhwyster allanol a gymeradwywyd yn unol â'r Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig.”
(10) Yn Rhan 3 o Atodlen 2 dileer paragraff 7.
(11) Ym mharagraff 1(1), 2(1) a 3(1) o Atodlen 3 yn lle'r geiriau “sydd bythefnos o flaen diwrnod ysgol olaf tymor yr haf ” rhodder “a bennir yn y canllawiau Asesu Statudol a'r Trefniadau Adrodd”.
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru.
17 Rhagfyr 2007