
2007 Rhif 3519 (Cy.311)
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Nodi Ffynonellau Sŵn) (Cymru) 2007
Gwnaed 13 Rhagfyr 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 17 Rhagfyr 2007
Yn dod i rym 9 Ionawr 2008

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud ag asesu, trafod a rheoli sŵn amgylcheddol.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Nodi Ffynonellau Sŵn) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Ionawr 2008.
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 

(1) Ystyr “map a adneuwyd” (“deposited map”) yw map sydd wedi'i lofnodi ar ran Gweinidogion Cymru ac wedi'i adneuo yn eu swyddfeydd.
(2) ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Swn Amgylcheddol (Cymru) 2006.
(3) Mae i eiriau a thermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir hefyd yn Rheoliadau 2006 yr un ystyr ag yn Rheoliadau 2006.
Nodi ffynonellau swn
3 
Mae rheoliadau 4, 5 a 6 yn nodi crynodrefi cylch cyntaf, prif ffyrdd cylch cyntaf a phrif reilffyrdd cylch cyntaf at ddibenion rheoliad 3(1) o Reoliadau 2006.
Crynodrefi cylch cyntaf
4 
Crynodrefi cylch cyntaf yw'r rhai a ddynodir—
(a) ar y map a adneuwyd o'r enw “Cardiff — First Round Agglomeration — Caerdydd — Cylch Cyntaf, Crynodref”, dyddiedig 13 Rhagfyr 2007 ac sy'n dwyn y cyfeirnod END\I\W\FRCardiff; a
(b) ar y map a adneuwyd o'r enw “Swansea/Neath/Port Talbot — First Round Agglomeration — Abertawe/Castell-nedd/Port Talbot — Cylch Cyntaf, Crynodref”, dyddiedig 13 Rhagfyr 2007 ac sy'n dwyn y cyfeirnod END\I\W\FRSwansea/Neath/Port Talbot.
Prif ffyrdd cylch cyntaf
5 
Prif ffyrdd cylch cyntaf yw'r rhai a ddynodir—
(a) ar y map a adneuwyd o'r enw “Wales (North) — First Round Major Roads — Cymru (Gogledd) — Cylch Cyntaf, Prif Ffyrdd”, dyddiedig 13 Rhagfyr 2007 ac sy'n dwyn y cyfeirnod END\I\W\FRNRoads; a
(b) ar y map a adneuwyd o'r enw “Wales (South) — First Round Major Roads — Cymru (De) — Cylch Cyntaf, Prif Ffyrdd”, dyddiedig 13 Rhagfyr 2007 ac sy'n dwyn y cyfeirnod END\I\W\FRSRoads.
Prif reilffyrdd cylch cyntaf
6 
Prif reilffyrdd cylch cyntaf yw'r rhai a ddynodir ar y map a adneuwyd o'r enw “Wales — First Round Major Railways — Cymru — Cylch Cyntaf, Prif Reilffyrdd”, dyddiedig 13 Rhagfyr 2007 ac sy'n dwyn y cyfeirnod END\I\W\FRRail.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2007