
2007 Rhif 3462 (Cy.307)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007
Gwnaed 5 Rhagfyr 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 10 Rhagfyr 2007
Yn dod i rym 1 Ionawr 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.
Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bu'r Rheoliadau canlynol yn cael eu llunio.
RHAN 1 RHAGARWEINIAD
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2008.
Dehongli
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn —
 ystyr “a fewnforir” (“imported”) yw y deuir ag ef i Gymru o le arall heblaw rhan arall o Ynysoedd Prydain;
 mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr sydd i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “awdurdod bwyd perthnasol” (“relevant food authority”) yw'r awdurdod bwyd y mae amgylchiadau'n codi yn ei ardal sy'n arwain at rwymedigaeth o dan y Rheoliadau hyn i dalu tâl i'r awdurdod hwnnw;
 mae i “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 2406/96” (“Regulation 2406/96”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) a “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yr ystyron a roddir iddynt yn ôl eu trefn yn yr Atodlen;
 mae i “cynhyrchion pysgodfeydd” yr ystyr a roddir i “fishery products” ym mhwynt 3.1 o Atodiad I i Reoliad 853/2004;
 ystyr “cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol” (“relevant fishery products”) yw cynhyrchion pysgodfeydd—
(a)  a ddaliwyd yn eu hamgylchedd naturiol;
(b) a fewnforir gan lestr pysgota sy'n cyhwfan baner trydedd wlad;
(c) nad ydynt wedi bod ar dir cyn cael eu mewnforio; ac
(ch) a fwriedir i'w rhoi ar y farchnad i'w bwyta gan bobl;ac eithrio cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol a mewnforion trydydd gwledydd;
 ystyr “cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol” (“relevant landed fishery products”) yw cynhyrchion pysgodfeydd —
(a) a gaiff eu glanio yng Nghymru;
(b) nad ydynt wedi bod ar dir yn flaenorol; ac
(c) a fwriedir i'w rhoi ar y farchnad i'w bwyta gan bobl,ac eithrio cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a mewnforion trydydd gwledydd;
 mae'r ymadrodd “gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod” i'w ddehongli'n unol â'r ymadrodd “first sale in a fish market” yn Rheoliad 882/2004;
 ystyr “gwerthwr” (“vendor”)
(a) pan gaiff cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol eu rhoi gyntaf ar y farchnad neu eu gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gan berson arall ar ran perchennog neu feistr llestr, yw'r person arall hwnnw; a
(b) pan gaiff cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol eu rhoi gyntaf ar y farchnad neu eu gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod mewn unrhyw amgylchiadau eraill, yw perchennog neu feistr y llestr sy'n eu glanio;
 ystyr “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) yw mewnforyn y mae tâl yn daladwy mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 54 o Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2007;
 mae i “prosesu” yr ystyr a roddir i (“processing”) ym Mhennod V o Adran B o Atodiad IV i Reoliad 852/2004;
 ystyr “pysgod eigionol penodedig” (“specified pelagic fish”) yw —
(a) penwaig neu ysagadan o'r rhywogaeth Clupea harengus;
(b) penwaig Mair o'r rhywogaeth Sardinia pilchardus;
(c) mecryll o'r rhywogaeth Scomber scombrus neu Scomber japonicus;
(ch) marchfecryll (Trachurus spp.);
(d) brwyniaid (Engraulis spp.);
(dd) picarelod o'r rhywogaeth Maena smaris; ac
(e) corbenwaig o'r rhywogaeth Sprattus sprattus;
 mae'r term “rheolaethau swyddogol” (“official controls”) i'w ddehongli'n unol â'r diffiniad o'r term “official control” ym mharagraff 1 o Erthygl 2 o Reoliad 882/2004;
 mae i “rhoi gyntaf ar y farchnad” yr ystyr sydd i (“first placing on the market”) yn Rheoliad 882/2004;
 mae i “sefydliad” yr ystyr a roddir i (“establishment”) ym mharagraff 1(c) o Erthygl 2 o Reoliad 852/2004;
 ystyr “sefydliad prosesu” (“processing establishment”) yw sefydliad lle y mae prosesu'n mynd rhagddo; ac
 ystyr “trydedd wlad” (“third country”), ac eithrio yn yr ymadrodd “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”) , yw unrhyw wlad neu diriogaeth, heblaw Kalaallit Nunaat (Greenland), nad yw'n Wladwriaeth AEE gyfan neu'n rhan o Wladwriaeth AEE.
(2) Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn cael eu neilltuo —
(a) drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, i awdurdod iechyd porthladd; neu
(b) drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936, i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig,
mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u neilltuo felly iddo.
Gwir gostau
3 
At ddibenion y Rheoliadau hyn, gwir gostau arfer rheolaethau swyddogol yw cyfanswm costau'r eitemau a restrir yn Atodiad VI i Reoliad 882/2004 ac a dynnir yn uniongyrchol wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004.
Cyfwerthoedd y bunt â'r Ewro
4 

(1) Bernir bod unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer penodedig o Ewros yn gyfeiriad at gyfwerth mewn punnoedd y nifer hwnnw wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2).
(2) Cyfrifir cyfwerth mewn punnoedd nifer penodedig o Ewros drwy luosi'r nifer hwnnw gan y gyfradd gyfnewid Ewro/punt a nodir ym mharagraff (3).
(3) Y gyfradd gyfnewid Ewro/punt yw —
(a) ar gyfer 2008, 1 Ewro = £0.67575; a
(b) ym mhob blwyddyn ddilynol, y gyfradd a gyhoeddir yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ar ddiwrnod gwaith cyntaf mis Medi y flwyddyn flaenorol neu, os na chyhoeddir cyfradd yn y gyfres ar y diwrnod hwnnw, y gyfradd gyntaf a gyhoeddir yn y gyfres ar ôl hynny.
Cyfnod Cyfrifydda
5 

(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, y cyfnod cyfrifydda yw un mis neu unrhyw gyfnod hwy nad yw'n fwy na deuddeng mis fel a benderfynir gan yr awdurdod bwyd perthnasol.
(2) Rhaid penderfynu'r cyfnod cyfrifydda, gan anelu at ostwng costau'r canlynol i swm rhesymol, o'i gymharu â'r taliadau y disgwylir iddynt ddod yn ddyledus, sef —
(a) gwneud datganiadau niferoedd; a
(b) casglu taliadau.
Casglu taliadau
6 
Pan osodir dyletswydd i dalu tâl o dan y Rheoliadau hyn ar y naill neu'r llall o ddau berson caiff yr awdurdod y mae'r tâl yn daladwy iddo ei gasglu —
(a) oddi wrth y ddau ohonynt ar y cyd; neu
(b) oddi wrth y naill neu'r llall ohonynt ar wahân.
Cyfrifo, talu ac ad-dalu taliadau
7 

(1) Pan ddelo'n hysbys i'r awdurdod bwyd perthnasol bod taliad yn ddyledus iddo o dan y Rheoliadau hyn rhaid iddo —
(a) cyfrifo swm y taliad gan roi ystyriaeth i'r wybodaeth sydd ganddo yn ei feddiant; a
(b) rhoi hysbysiad o'r swm a gyfrifwyd felly i unrhyw berson y caniateir ei gasglu oddi wrtho.
(2) Os yw'r awdurdod bwyd perthnasol yn fodlon bod cyfrifiad sydd wedi'i wneud o dan baragraff (1) yn anghywir, rhaid iddo ail-gyfrifo'r taliad ac —
(a) pan fo'r swm cywir yn fwy na'r swm a gyfrifwyd o dan baragraff (1), rhaid iddo gasglu'r swm uchaf yn unol â'r paragraff hwnnw;
(b) pan fo'r swm cywir yn llai na'r swm a gyfrifwyd o dan y paragraff hwnnw ac na fo'r swm hwnnw wedi'i gasglu, rhaid iddo gasglu'r swm lleiaf yn unol â'r paragraff hwnnw; ac
(c) pan na fo swm yn daladwy neu pan fo'r tâl taladwy yn llai na'r swm a gyfrifwyd o dan y paragraff hwnnw, a'r tâl hwnnw wedi'i gasglu, rhaid iddo ad-dalu'r gwahaniaeth.
Apelau
8 

(1) Caiff person apelio yn erbyn unrhyw benderfyniad gan yr awdurdod bwyd perthnasol sy'n gosod tâl o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Gwrandewir yr apêl gan lys ynadon ac mae adran 37(3), (5) a (6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys o ran y cyfryw apêl fel y mae'n gymwys mewn perthynas ag apêl o dan adran 37(1)(c) o'r Ddeddf honno.
(3) Ar unrhyw apêl o'r fath caiff y llys —
(a) cadarnhau penderfyniad yr awdurdod bwyd perthnasol;
(b) penderfynu unrhyw dâl sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn; neu
(c) penderfynu nad oes tâl yn daladwy.
(4) Wrth ddisgwyl canlyniad yr apêl bydd swm gwreiddiol y tâl yn parhau'n daladwy, ond os bydd angen ailgyfrifo swm y tâl ar ôl penderfyniad y llys, bydd swm newydd y tâl yn effeithiol o'r dyddiad y gwnaed y tâl gwreiddiol a bydd y swm sy'n hafal i'r swm newydd hwnnw yn daladwy i'r awdurdod bwyd perthnasol.
(5) Os bydd y llys yn penderfynu bod tâl sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn yn llai na'r tâl sydd wedi'i dalu, rhaid i'r awdurdod bwyd perthnasol dalu'r gordal yn ôl i'r apelydd llwyddiannus.
Taliadau sy'n daladwy i fwy nag un awdurdod bwyd
9 
Mewn unrhyw achos o ohirio arfer rheolaethau swyddogol a phan nad yr awdurdod bwyd perthnasol y mae'n ofynnol talu tâl iddo o dan y Rheoliadau hyn (“awdurdod B”) yw'r awdurdod bwyd sy'n gyfrifol am arfer rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 (“awdurdod A”), rhaid i awdurdod B anfon at awdurdod A swm hafal i unrhyw swm a ddaeth i law awdurdod B ac y gellir ei gyfeirio at reolaethau swyddogol a arferir gan awdurdod A.
RHAN 2 TALIADAU RHEOLAETHAU SWYDDOGOL AC EITHRIO TALIADAU AM FEWNFORION TRYDYDD GWLEDYDD
Talu tâl glanio o ran rhoi gyntaf ar y farchnad neu werthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol
10 

(1) Mae pob un o'r canlynol yn drafodyn y codir tâl amdano at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 11—
(a) rhoi gyntaf ar y farchnad gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol;
(b) rhoi gyntaf ar y farchnad gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol;
(c) gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol; ac
(ch) gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), pan fydd yna drafodyn y codir tâl amdano at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 11, rhaid i'r gwerthwr dalu'r tâl y cyfeirir ato ym mharagraffau (3) i (7) (“y tâl glanio”) i'r awdurdod bwyd perthnasol.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os rhoi gyntaf ar y farchnad gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yw'r trafodyn y codir tâl amdano, cyfraniad yw'r tâl glanio tuag at y costau a dynnir wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 a hwnnw'n dâl a gyfrifir yn ôl cyfradd o 1 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf a 0.5 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol a roddwyd gyntaf ar y farchnad mewn mis calendr.
(4) Os gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol yw'r trafodyn y codir tâl amdano, cyfraniad yw'r tâl glanio tuag at y costau a dynnir wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 a hwnnw'n dâl a gyfrifir yn ôl cyfradd o 1 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf a 0.5 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a werthwyd gyntaf mewn marchnad bysgod mewn mis calendr.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), os gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yw'r trafodyn y codir tâl amdano, cyfraniad yw'r tâl glanio tuag at y costau a dynnir wrth after y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 a hwnnw'n dâl a gyfrifir yn ôl cyfradd o 0.5 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf a 0.25 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol a werthwyd gyntaf mewn mis calendr.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os—
(a) gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yw'r trafodyn y codir tâl amdano ; a
(b) nad yw'r cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yn cael eu graddio o ran ffresni a/neu faint yn unol â Rheoliad 2406/96 neu os nad ydynt yn cael eu graddio'n ddigonol felly,
cyfraniad yw'r tâl glanio tuag at y costau a dynnir wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 a hwnnw'n dâl a gyfrifir yn ôl cyfradd o 1 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf a 0.5 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a werthwyd gyntaf mewn mis calendr.
(7) O ran unrhyw lwyth o bysgod eigionol penodedig sy'n gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol, rhaid i'r tâl glanio beidio â bod yn fwy na 50 Ewro.
(8) Pan fo gwir gostau arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 yn llai na'r tâl glanio, rhaid i'r gwerthwr dalu swm hafal i'r costau hynny i'r awdurdod bwyd perthnasol, yn lle'r tâl glanio.
Datganiadau niferoedd a chofnodion sy'n ymwneud â chynhyrchion pysgodfeydd perthnasol neu gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol
11 

(1) Cyn pen 7 niwrnod ar ôl diwedd pob cyfnod cyfrifydda, rhaid i'r gwerthwr roi datganiad niferoedd ysgrifenedig i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae'r tâl glanio'n daladwy iddo o ran cyfanswm y trafodion y codir tâl amdanynt ac y mae'r gwerthwr wedi ymwneud â hwy yn ystod y cyfnod hwnnw.
(2) Rhaid i'r datganiad niferoedd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gynnwys yr wybodaeth ganlynol —
(a) y cyfnod cyfrifydda y mae a wnelo'r datganiad niferoedd ag ef;
(b) y lle a'r dyddiad y caiff y cynhyrchion pysgodfeydd y mae a wnelo'r datganiad â hwy eu glanio;
(c) y lle a'r dyddiad y caiff y cynhyrchion hynny eu rhoi gyntaf ar y farchnad neu eu gwerthu gyntaf mewn marchnad bysgod, yn ôl y digwydd; ac
(ch) ar gyfer glaniadau o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a glaniadau o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol ac eithrio pysgod eigionol penodedig —
(i) enw pob llestr a nifer y llwythi sy'n cael eu glanio ohono,
(ii) cyfanswm pwysau'r llwythi sy'n cael eu glanio gan bob llestr ac nad ydynt yn fwy na 50 tunnell ynghyd â'r 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw; a
(iii) cyfanswm pwysau'r llwythi sy'n llai na'r pwysau a gyfrifir o dan baragraff (ii);
(d) ar gyfer glaniadau o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol ac sy'n bysgod eigionol penodedig —
(i) enw pob llestr a nifer y llwythi sy'n cael eu glanio ohono, a
(ii) cyfanswm pwysau'r llwythi sy'n cael eu glanio gan bob llestr ac nad ydynt yn fwy na 50 tunnell ynghyd â'r 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw;
(dd) hysbysiad o unrhyw swm a dalwyd yn rhinwedd paragraff (4) o reoliad 10 ac a dalwyd mewn cysylltiad —
(i) â llwythi o bysgod nad ydynt ond yn bysgod heblaw pysgod eigionol penodedig, neu
(ii) â llwythi o bysgod eigionol penodedig yn unig,
gan nodi'r amgylchiadau a arweiniodd at dalu'r swm hwnnw;
(e) mewn perthynas â llwythi o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol —
(i) cyfanswm pwysau'r holl gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol a gaiff eu glanio, a
(ii) cyfanswm swm y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 10 o ran y cynhyrchion hynny; ac
(f) swm y tâl glanio.
(3) Yn ystod y cyfnod o 1 flwyddyn yn dechrau ar y diwrnod y mae gwerthwr yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn —
(a) caiff yr awdurdod bwyd perthnasol y rhoddwyd y datganiad iddo ei gwneud yn ofynnol i'r gwerthwr ddarparu gwybodaeth ar wahân o'r math sy'n ofynnol gan baragraff (2) o ran pob trafodyn a gynhwysir ynddo; a
(b) rhaid i'r gwerthwr gadw cofnodion sy'n ddigonol i alluogi'r gwerthwr i gyflenwi unrhyw wybodaeth o'r fath.
(4) Bydd unrhyw werthwr a fydd heb esgus rhesymol —
(a) yn methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu (3)(b); neu
(b) yn methu â chydymffurfio â gofyniad a wneir o dan baragraff 3(a),
yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Tâl o ran sefydliadau prosesu
12 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berchennog neu weithredydd sefydliad prosesu dalu'r tâl y cyfeirir ato ym mharagraff (2) (“y tâl sefydliad prosesu”) i'r awdurdod bwyd perthnasol.
(2) Cyfraniad o 0.5 Ewro y dunnell o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n dod i sefydliad at ddiben prosesu fydd y tâl sefydliad prosesu a hwnnw'n gyfraniad at y costau a dynnir gan yr awdurdod bwyd perthnasol pan fydd yn arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004.
(3) Pan fo gwir gostau arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Atodiad III i Reoliad 854/2004 yn llai na'r tâl sefydliad prosesu, rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd dalu swm sy'n hafal i'r costau hynny i'r awdurdod bwyd perthnasol, yn lle'r tâl sefydliad prosesu.
Datganiadau niferoedd a chofnodion sy'n ymwneud â sefydliadau prosesu
13 

(1) Cyn pen 7 niwrnod ar ôl diwedd pob cyfnod cyfrifydda, rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd sy'n gyfrifol am dalu'r tâl sefydliad prosesu wneud datganiad niferoedd ysgrifenedig o ran y tâl hwnnw a'i roi i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae'r tâl hwnnw'n daladwy iddo o ran y cynhyrchion pysgodfeydd sydd wedi dod i'r sefydliad dan sylw yn ystod y cyfnod hwnnw.
(2) Rhaid i ddatganiad niferoedd y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn —
(a) y cyfnod cyfrifydda y mae a wnelo'r datganiad niferoedd ag ef;
(b) pwysau'r cynhyrchion pysgodfeydd sy'n dod i'r sefydliad; ac
(c) swm y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 12.
(3) Yn ystod y cyfnod o un flwyddyn yn dechrau ar y diwrnod y mae perchennog neu weithredydd yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn —
(a) caiff yr awdurdod bwyd perthnasol y rhoddwyd y datganiad niferoedd iddo ei gwneud yn ofynnol i'r perchennog neu'r gweithredydd ddarparu gwybodaeth ar wahân o'r math sy'n ofynnol gan baragraff (2) o ran pob swp o gynhyrchion pysgodfeydd a gynhwysir ynddo; a
(b) rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd gadw cofnodion sy'n ddigonol i'w alluogi i gyflenwi unrhyw wybodaeth o'r fath.
(4) Bydd unrhyw berchennog neu weithredydd sydd heb esgus rhesymol —
(a) yn methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu (3)(b); neu
(b) yn methu â chydymffurfio â gofyniad o dan baragraff (3)(a),
yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Dirymu
14 
Dirymir Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2006.
G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
5 Rhagfyr 2007
YR ATODLEN
DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL
Rheoliad 2


 ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynghylch hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl, ac yn diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC;
 ystyr “Rheoliad 2406/96” (“Regulation 2406/96”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2406/96 sy'n gosod safonau marchnata cyffredinol ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd penodol;
 ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;
 ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;
 ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005 a Rheoliad 2076/2005;
 ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a arferir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, a rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid yn cael ei wirio fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;
 ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden;
 ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd;
 ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004;
 ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig; ac
 ystyr “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004.
