
2007 Rhif 3423 (Cy.304)
CEFN GWLAD, CYMRU
Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2007
Gwnaed 4 Rhagfyr 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Rhagfyr 2007
Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2007
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ymgynghori â'r cyngor ar gyfer y brif ardal y mae rhan ohoni'n rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a chan arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 63(1) a (5) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a pharagraffau 1(2) a 2(3) o Atodlen 7 iddi ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt hwy , yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1 

(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2007.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Rhagfyr 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2 
Yn y Gorchymyn hwn —
 ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru)1995.
Diwygio Gorchymyn Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 1995
3 

(1) Diwygir y prif Orchymyn yn unol â'r paragraffau canlynol.
(2) Yn Rhan I o Atodlen 2 i'r prif Orchymyn, yn lle—“
Pembrokeshire Coast National Park Authority
Local authority members 10
Secretary of State members 5
Total number of members 15”
 rhodder“
Pembrokeshire Coast National Park Authority
Local authority members 12
Members appointed by the Welsh Ministers 6
Total number of members 18”
(3) Yn Rhan II o Atodlen 2 i'r prif Orchymyn, yn lle “Pembrokeshire County Council 10” rhodder “Pembrokeshire County Council 12”.
Jane Davidson
Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
4 Rhagfyr 2007