
2007 Rhif 3379 (Cy.301)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2007
Gwnaed 27 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 29 Tachwedd 2007
Yn dod i rym 23 Rhagfyr 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bo'r Rheoliadau hyn yn cael eu llunio a'u gwerthuso.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1 
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 23 Rhagfyr 2007.
Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
2 

(1) Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 wedi'u diwygio (i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru) yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol), ar ôl paragraff (13) mewnosoder y canlynol —“
(14) In any proceedings for an offence under regulation 44(1)(a), it is to be a defence to prove that —
(a) the food concerned was sold before 23 December 2008 or marked or labelled before that date; and
(b) the matters constituting the alleged offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulation 2(3) of the Food Labelling (Declaration of Allergens) (Wales) Regulations 2007 had not been in operation when the food was sold.”.
(3) Yn Atodlen AA1 (cynhwysion alergenig) —
(a) ar ôl paragraff (2) mewnosoder “2(a). Molluscs and products thereof”;
(b) ar ôl paragraff (6) mewnosoder “6(a). Lupin and products thereof”.
G. Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2007