
2007 Rhif 3375 (Cy.300)
ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007
Gwnaed am 3.44p.m. ar 28 Tachwedd 2007
Yn dod i rym am 3.59p.m. ar 28 Tachwedd 2007
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 8 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy.
Enwi a chychwyn
1 
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ffliw Adar (H5N1) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007; mae'n gymwys o ran Cymru a daw i rym am 3.59p.m. ar 28 Tachwedd 2007.
Diwygio
2 

(1) Ar ôl erthygl 14(2)(j) o Orchymyn Ffliw Adar (H5N1 Mewn Dofednod) (Cymru) 2006 mewnosoder—“
(ja) raw petfood, within the meaning of paragraph 48 of Annex I to Regulation (EC) No. 1774/2002, which complies with the requirements in Part B of Chapter II of Annex VIII to that Regulation;”.
(2) Ar ôl paragraff 13(2)(j) o Atodlen 1 i Orchymyn Ffliw Adar (H5N1 Mewn Adar Gwyllt) (Cymru) 2006 mewnosoder—“
(ja) raw petfood, within the meaning of paragraph 48 of Annex I to Regulation (EC) No. 1774/2002, which complies with the requirements in Part B of Chapter II of Annex VIII to that Regulation;”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
28 Tachwedd 2007